Sefydlwyd Trac Cymru oherwydd pryderon bod diwylliant gwerin traddodiadol Cymru yn cael ei golli Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein Polisi Diwylliannol.

Fel y nodir yn ein Polisi Iaith Gymraeg, mae pob agwedd o’n gwaith yn rhoi sylw cyfartal i’r iaith Gymraeg ac i’r iaith Saesneg.

Nod ein Polisi Cydraddoldeb yw sicrhau ein bod yn trin pawb yn gyfartal, ac mae ein Polisi Gweithwyr Llawrydd yn manylu’r ymrwymiadau Trac Cymru i’r rhai sy’n gweithio gyda fel gweithwyr llarwydd.

Mae manylion pellach a allai fod yn berthnasol i grwpiau penodol wedi eu nodi ym mholisïau eraill; mae’r polisïau hyn yn sôn am Ddiogelu  (Amddiffyn Plant ac Oedolion Agored i Niwed) a Gwirfoddolwyr.

Mae gennym hefyd bolisïau ar ein heffaith Amgylcheddol ac ar gadw gwybodaeth sensitif mewn ffordd ddiogel.

Os bydd problemau, mae gennym weithdrefn ar gyfer Mynegi Pryderon.

Cewch weld ein polisi ar Ddefnydd o’r wefan, Preifatrwydd a Cwcis yma.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn adolygu ein Polisiau pob blwyddyn.

 

Mae Trac Cymru yn aelod o ArtWorks Alliance ac rydym yn cymeradwyo ei God Ymarfer ar gyfer artistiaid sy’n gweithio mewn lleoliadau cyfranogol.

Rydym hefyd yn cymeradwyo Cod Ymarfer yr ISM a’r MU, set o egwyddorion i fynd i’r afael ac atal bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu i bawb sy’n gweithio yn y sector cerddoriaeth.