Gwobrau Gwerin Cymru 2023

Y Gwobrau

Mae Gwobrau Gwerin Cymru yn dathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Cymru ar ei lefel uchaf. Ar ôl cyfnod mor anodd i gerddoriaeth fyw yn ystod y pandemig, mae’r Gwobrau ‘nôl yng Ngwanwyn 2023 er mwyn tynnu sylw at gyflawniadau cerddorol Cymru. Lansiwyd Gwobrau Gwerin Cymru yn 2019, ac mae’n bartneriaeth rhwng Trac Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac unigolion arwyddocaol o fyd cerddoriaeth werin Gymreig.

Ym mis Chwefror 2023 gwahoddwyd y cyhoedd i anfon eu henwebiadau ar gyfer deg categori yn amrywio o’r Grŵp Gorau i’r Act Newydd Gorau. Yna, cafodd gynrychiolwyr o wyliau, lleoliadau, cyfryngau a threfnwyr gwerin cael eu gwahodd i fod yn rhan o’r Panel Rhestr Hil i ddewis o’r enwebiadau cyhoeddus i greu’r rhestrau byr. Yna aeth y rhestrau byr ymlaen i 6 beirniad annibynnol sydd yn cynrychioli’r byd cerddoriaeth werin, i benderfynu’r enillwyr ym mhob categori.

Y panel beirniadu eleni yw –

  • Stephen Rees, Un o hoelion wyth y traddodiad a cerddoriaetholegydd
  • Ywain Myfyr, Sesiwn Fawr Dolgellau
  • Naomi Saunders, Galeri Caernarfon
  • Mick Tems, Folk Wales Online and Clwb Gwerin Llantrisant
  • David Francis, Traditional Arts and Culture Scotland
  • Rhian Davies, Menter Maldwyn

Y categorïau eleni yw –

  1. Y GÂN GYMRAEG DRADDODIADOL ORAU
  2. Y GÂN SAESNEG WREIDDIOL ORAU
  3. Y GÂN GYMRAEG WREIDDIOL ORAU
  4. Y TRAC OFFERYNNOL GORAU
  5. YR ARTIST/BAND GORAU SY’N DECHRAU DOD I’R AMLWG
  6. YR ARTIST UNIGOL GORAU
  7. YR ALBWM GORAU
  8. YR PERFFORMIAD BYW GORAU
  9. Y GRŴP GORAU
  10. FFEFRYN GWERIN CYMRU

Bydd hefyd Gwobr Cyflawniad Oes a Tlws y Werin am yr alaw newydd orau.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Wobrwyo ddisglair yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar y 20fed Ebrill. Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau byw gan rai o’r enillwyr, gyda BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn darlledu rhaglenni wedi’u recordio ar y noson.

Mae dau grefftwr o Gaerfyrddin wedi creu’r tlysau – y gof Aaron Petersen a’r trowyr pren Rob Hopkins. Yn seiliedig ar daliwr rushlight o’r 18fed ganrif, mae pob un yn unigryw, ac wedi’i wneud o bren haearn a coed onnen lleol. Mae gan y tlysau gysylltiad teuluol gwerin – tad Aaron yw’r gof David Petersen a arweiniodd ddirprwyaeth Cymru yng Ngŵyl Ryng-geltaidd Lorient am llawer o flynyddoedd, ac mae ei nai Sam yn aelod o Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Trac Cymru.

Mae mwy ar y Gwobrau agoriadol yma 👇
https://trac.cymru/cy/gwobrau-gwerin-cymru-2019/

Dilynwch ni ar ein cyfryngau gymdeithasau! 📲

Twitter 

Facebook

Mae tocynnau nawr ar werth, gallwch ddod o hyd i’r ddolen gyswllt i’r tocynnau isod 👇

Tocynnau i’r Gwobrau Gwerin Cymru 2023

Ffeindiwch eich tocynnau Gwobrau Gwerin Cymru yma