Polisi Cydraddoldeb

 

1.  Cyflwyniad

1.1  Bwriad y cynllun hwn yw sicrhau bod yr holl gyflogai, gwirfoddolwyr, contractwyr a phartneriaid, posibl a gwirioneddol, yn cael eu trin yn gydradd ac fel unigolion waeth beth yw eu hoedran, anabledd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, ailbennu rhywedd, statws priodasol/rhiant, cenedligrwydd, daliadau gwleidyddol, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol.
1.2  Mae hyn yn cynnwys diddymu, o fewn fframwaith y ddeddfwriaeth bresennol, (y Ddeddf Cydraddoldeb 2010) gwahaniaethu yn ei bolisïau a’i arferion ei hun ac yn y meysydd hynny y mae’n gallu dylanwadu arnynt.
1.3  Mae’r cynllun wedi ei osod o fewn fframwaith polisïau eraill trac, gan gynnwys Diwylliant a’r Iaith Gymraeg, sydd oll ar gael i aelodau’r cyhoedd.
1.4  Bydd y cynllun Cydraddoldeb hwn yn weithredol ymhob agwedd ar waith Trac Cymru:
·         apwyntio unrhyw bwyllgorau a gweithgorau Trac Cymru;
·         y broses o apwyntio staff, eu amodau gwaith a gweithdrefnau cyflogi;
·         llunio polisi a chynlluniau cyllido;
·         unrhyw gyswllt gyda’r cyhoedd a gyda’n partneriaid;
·         cynllunio a gweithredu ein holl weithgareddau,
1.5  Bydd Trac Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod y polisi’n cael ei weithredu mewn ffordd effeithiol drwy broses o ymgynghori ar draws holl waith trac.

2. Cyfleoedd Cyfartal

2.1  Mae Trac Cymru wedi ymrwymo i feithrin cynllun a fydd yn hybu cydraddoldeb o ran mynediad i ystod lawn o ddigwyddiadau celfyddydol i bobl o bob oed, gallu, diwylliant a chymuned.
2.2.  Archwilio, Monitro a Gwerthuso
Mae Trac Cymru wedi mabwysiadu gweithdrefnau Monitro a Gwerthuso Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a byddwn yn cynllunio system adrodd yn ôl a fydd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr gynnig gwybodaeth a fydd yn hybu cynnydd ein rhaglen Cyfleoedd Cyfartal.
2.3.  Rhaglenni a Dargedir
Pan fydd Trac Cymru, wrth fonitro, yn dod ar draws achosion penodol o dan-ddarpariaeth, bydd yn ystyried p’un ai i sefyfydlu mentrau wedi eu targedu neu raglenni wedi eu cynllunio fel y bod rhannau penodol o’r gymuned yn medru cyrraedd y trothwy gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth o gael mynediad at y celfyddydau y mae eraill yn meddu arnynt. Bydd rhaglenni o’r math yn ffocysu ar faterion hyfforddiant, datblygu partneriaethau arbennig a phrosiectau sy’n dangos arferion da.

3.  Cynllun Cyflogaeth

Mae Trac Cymru wedi’i ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal o safbwynt cyflogaeth. Yn benodol mae trac am geisio sicrhau:
3.1         na fydd unrhyw ymgeisydd am swydd neu gyflogai yn derbyn triniaeth llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, statws priodasol/rhiant, daliadau gwleidyddol, cenedligrwydd, hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
3.2         na fydd unrhyw ymgeisydd am swydd neu gyflogai o dan anfantais oherwydd gofynion neu amodau sy’n cael effaith niweidiol anghyfartal ar ei adran/ ei hadran o’r gymuned;
3.3         lle bo’n bridol ac yn ganiataol yn ôl deddfau cyflogaeth cyfle cyfartal, bydd cyflogai sy’n aelod o grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn derbyn hyfforddiant ac anogaeth i’w galluogi i brofi cyfle cyfartal o fewn y mudiad.
3.4        Yn ychwanegol, mae gan Trac Cymru bolisi ar wirfoddoli,
3.5        ac ar recriwtio pobl sy’n meddu ar gofnod troseddol.

Adolygwyd a chytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Trac Cymru ar 20 Medi 2022.