FOCUS Wales

Mae FOCUS Wales yn ŵyl arddangos ryngwladol sy’n digwydd mewn nifer o leoliadau yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae’n gosod llifolau’r diwydiant cerddoriaeth ar y dalent newydd sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd, ynghyd â detholiad o’r perfformwyr newydd gorau o bedwar ban.

Ei phrif leoliad yw Tŷ Pawb, gofod celfyddydol a chymunedol newydd Wrecsam.

Yn flynyddol, mae Focus Wales yn dod â dros 250 o berfformiadau ynghyd o bob cwr o’r byd, ac yn teithio gydag artistiaid o Gymru i gynadleddau a gwyliau arddangos mor bell i ffwrdd â Thaiwan, De Corea, Canada a mwy. Mae’r mynychwyr yn cynnwys cyfran uchel o raglenwyr gwerin a ‘roots’, sy’n awyddus i ddysgu mwy am Gymru a’i thraddodiadau cerddorol.

Mae Trac Cymru yn eu cynorthwyo gyda’u perthynas â cherddoriaeth draddodiadol, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfredol yn ogystal â gwaith a thalent newydd. Rydym hefyd yn dod â cherddorion traddodiadol o Gymru i FOCUS Wales i gychwyn ar y gwaith o feithrin y math o berthnasau fydd yn helpu i gynnal gyrfa ym myd cerddoriaeth.