Llwybrau Creadigol
Mae Trac Cymru yn cydweithio ag artistiaid perfformiadol i ddatblygu ein sîn werin newydd ar lefel broffesiynol.
Byddwn yn cynorthwyo aelodau Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, ar eu taith at ddod yn gerddorion proffesiynol, gan ganolbwyntio yn ogystal ar y sgiliau busnes sydd eu hangen ar gerddorion ar gychwyn eu gyrfaoedd.
Mae Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru (CCP Cymru), a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun Cymru Greadigol, yn cynnig cyfle pwysig i newid tirwedd gyrfaoedd creadigol yng Nghymru trwy gydweithio â mwy o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, a thrwy gefnogi’r diwydiannau creadigol i daflu goleuni pellach ar fyd gwaith mewn modd ystyrlon.
Arweinir y rhaglen gan Creative & Cultural Skills mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru, ScreenSkills a Trac Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyrfa Cymru a Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol.
Mae prif amcanion CCP Cymru fel a ganlyn:
- Ymgysylltu â phobl ifanc a phobl sy’n newydd i’r sector er mwyn rhoi gwybod iddynt am yr ystod eang o yrfaoedd sy’n bodoli o fewn y diwydiannau creadigol a diwylliannol
- Ymgysylltu â phobl ifanc o ardaloedd o Gymru sy’n gymdeithasol ac economaidd ddifreintiedig
- Uwchsgilio ymgynghorwyr gyrfaoedd yn eu gwybodaeth am y cyfleoedd a gynigir gan y sector creadigol a diwylliannol
- Uwchsgilio cyflogwyr yn eu gwybodaeth ynghylch sut i gynnig cyfleoedd gwaith amrywiol ac ystyrlon i bobl ifanc a phobl sy’n newydd i’r sector.
Ar gyfer cyfraniad Trac Cymru i’r cyfnod peilot yn Hydref 2020, bu i gerddorion ifanc Avanc (Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru) archwilio’r rolau gwahanol sydd eu hangen i ryddhau deunydd yn ddigidol, a chafodd eu gwaith ei droi yn fideo gan y gwneuthurwr ffilmiau, Meinir Siencyn. Gellir gwylio’r fideo isod.