Clustfeiniau

Mae ein cerddoriaeth yn ddolen gyswllt bersonol, cymdeithasol a byw rhwng ein gorffennol a’n dyfodol.

Cyfres o ffilmiau byr yw Clustfeiniau sy’n darlunio’r ffordd y mae ein cerddorion yn dysgu ac yn rhannu ein cerddoriaeth. Cyfrannodd naw o’n cerddorion gwerin proffesiynol gorau, gan gynnwys rhai enwau arwyddocaol ym myd cerddoriaeth Cymru, eu straeon, eu cysylltiadau a’u alawon i’r prosiect.

Mae Robert Evans, Gerard KilBride, Gafin Morgan, Beth Williams Jones, Stephen Rees, Robin Huw Bowen, Gwenan Gibbard, Ceri Rhys Matthews ac Elsa Davies yn ffurfio cadwyn gerddorol gan chwarae’r gerddoriaeth y maen nhw wedi dysgu ac addysgu i eraill, ac yn sôn am yr hyn y mae cerddoriaeth draddodiadol yn ei olygu iddyn nhw fel cerddorion ac fel pobl.

Mae pob ffilm ond ychydig o funudau o hyd ac yn cynnwys un cerddor yn chwarae alaw neu ddwy, sy’n arwain at ddolen nesa’r gadwyn. Wedi’i chreu a’i chyd-gynhyrchu gan Gerard KilBride a Rhodri Smith, mae’r gyfres sydd wedi’i ffilmio’n hyfryd yn ymweld â’r naw cerddor yn eu cartrefi, ceginau a gweithdai. Er iddynt gael eu ffilmio gan ddefnyddio offer clyweledol tech-isel – iffonau, fflip gamerau a chamcorderau llaw bach – mae’r fideos yn gameos coeth sy’n archwilio cerddorion traddodiadol ‘yn eu cynefin brodorol’.

Os gallwn ni wneud hyn, yna ‘rydym yn argyhoeddiedig y gall unrhyw un arall sydd â mynediad at gerddor, camera ac ychydig oriau o amser wneud yn union yr un peth. Byddwn yn defnyddio’r ffilmiau hyn a rhai newydd iddarlunio ein cerddoriaeth, ein caneuon, ein dawnsiau a’n halawon. Gobeithiwn y byddwch yn eu mwynhau, ac y byddwch yn anfon eich Clustfeiniau eich hunain atom fel y gall pawb eu rhannu!

Gallwch weld y fideoau yma neu ar ein sianel YouTube.