Hyfforddiant

Datblygu Proffesiynol

Mae Trac Cymru yn cydweithio ag artistiaid perfformiadol i ddatblygu ein sîn werin newydd ar lefel broffesiynol.

Mae ein gwaith datblygu proffesiynol cyfredol yn canolbwyntio ar Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, sy’n cynnwys rhai o aelodau mwyaf addawol y genhedlaeth nesaf o gerddorion proffesiynol, ac ar ddatblygu hyfforddiant proffesiynol ar ran Creative & Cultural Skills.

Yn y gorffennol, rydym wedi cynnal cyrsiau preswyl datblygu proffesiynol, dyddiau datblygu perfformio, mentora a mwy:

  • Hyfforddiant a datblygu i grŵp gwâdd o gerddorion proffesiynol newydd oedd yn cynnwys mentora, arddangos cyfleoedd a gweithdai

– Teithio, Gigio a Datblygu Eich Cynulleidfaoedd – Strategaethau ac astudiaethau achos ar gyfer y DU a sefyllfaoedd rhyngwladol

– Gonestrwydd a Dilysrwydd: Cerddoriaeth Gymreig y tu hwnt i Gymru, y Porth Ieithoedd, a dulliau gwahanol o fynd ati i allforio

– Adeiladu eich tîm – sut i greu rhwydwaith o gefnogaeth trwy gydol eich gyrfa gerddorol

  • Dyddiau hyfforddi Aur – dros gyfnod o dair blynedd, bu i ni gynnal nifer o weithdai undydd ar sgiliau yn y diwydiant cerddorol. Roedd y rhain yn agored i unrhyw berfformwyr gwerin a ddymunai ddysgu am grefft llwyfan, sain fyw, y cyfryngau cymdeithasol, technegol/logisteg, a marchnata/brandio
  • Dyddiau cerddoriaeth, yn agored i bawb – ysgrifennu caneuon gyda Martyn Joseph, trefnu cerddoriaeth werin gyda Sioned Webb
  • Hyfforddiant i diwtoriaid – ehangu posibiliadau ‘gyrfa bortffolio’ cerddorion trwy gyrsiau ‘Handing It On’ a’n cwrs hyfforddi i diwtoriaid cerddoriaeth werin yn y gymuned, a ddatblygwyd ar y cyd â Cerdd Cymunedol Cymru.