Folk Alliance International

Pam Gogledd America?

Mae gan yr Unol Daleithiau a Chanada gynulleidfa bosib sydd dros ganwaith maint yr hyn sydd gennym gartref. Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, rydym wedi helpuGeorgia Ruth, Chris Jones, Delyth and Angharad, Siân James, 9Bach, Gwyneth Glyn, Calan, Danielle Lewis, Plu, Vrii, Rusty Shackle, Lleuwen, The Gentle Good, Lowri Evans, Olion Byw and Trials of Cato i fasnachu mewn marchnad enfawr sy’n gallu llethu rhywun ar brydiau.

Mae cynulleidfa i’w chael i bron bob math o gerddoriaeth, ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn wirioneddol awyddus i ddysgu am a gwrando ar gerddoriaeth o Gymru. Ond gyda dros 300,000,000 o bobl ar gyfandir sy’n cychwyn dros 3,000 o filltiroedd o Gymru, mae dod wyneb yn wyneb â nhw yn teimlo fel tasg aruthrol.

Dyma’r rheswm ein bod yn mynychu cynhadledd Folk Alliance International . Mae’r gynhadledd yn llwyfannu dwy fil o berfformiadau arddangos dros gyfnod o bedwar diwrnod, ac yn denu dros dair mil o fynychwyr: cerddorion, trefnwyr gwyliau, asiantau, labeli, swyddogion cyhoeddusrwydd, mentoriaid, clybiau, lleoliadau ac asiantaethau cefnogi. Mae’r holl fynychwyr hyn yn bresennol er mwyn masnachu, ffurfio perthnasau a gwrando ar gerddoriaeth werin newydd a chyffrous o bedwar ban byd. Ein rôl yw deall y gymuned hon, gan helpu perfformwyr o Gymru i gael eu traed danynt a gwneud y mwyaf o’u hamser yn y gynhadledd.

Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach i helpu cerddorion traddodiadol proffesiynol o Gymru i gyrraedd marchnadoedd newydd a ffurfio’r math o berthnasau sydd eu hangen arnynt i ddilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth. Rydym yn gwneud y gwaith gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o bartneriaeth Gorwelion sydd wedi ei ffurfio o sefydliadau datblygu ledled y DU ac Iwerddon ac a gydlynir ganBritish Underground – yr asiantaeth gefnogi ar gyfer cerddoriaeth annibynnol yn y DU. Ar y cyd, rydym yn

  • cydlynu’r artistiaid o’r DU fydd yn cymryd rhan
  • rhedeg stondin yn yr Ŵyl Fasnach
  • trefnu derbyniadau a pherfformiadau arddangos preifat
  • help the artists meet the people they need to
  • support them at their showcases and meetings with music businesses

“Roedd y cyfle i gynrychioli eich gwlad mewn digwyddiad mor fawr, a chanu cerddoriaeth Gymreig yn y Gymraeg i gynulleidfa ryngwladol yn fraint, ac roedd ein proffil yno fel grŵp cenedlaethol o berfformwyr unigol o Gymru wastad yn amlwg ac yn rhoi boddhad gwirioneddol.” (Chris Jones ar ymddangos yng nghynhadledd Folk Alliance International)

Artistiaid rydyn ni wedi’u cefnogi yn FAI