EFEx

Gŵyl arddangos a ffair fasnach i werin ryngwladol dros dridiau yw EFEx (Ffair Werin Lloegr) gyda thalent o Loegr a chyda phartner rhyngwladol bob blwyddyn. Atynna archebwyr, gwyliau, canolfannau celfyddydol, clybiau gwerin, asiantwyr a hyrwyddwyr o ledled Prydain, Ewrop, Canada a lleoedd eraill i Fanceinion bob mis Hydref, ychydig cyn WOMEX.

Bob blwyddyn mae ffocws arbennig ar un wlad arall, ac yn 2018 Cymru oedd y Bartner Ryngwladol. Fe wnaethon ni arddangos pedwar band – Catrin Finch a Seckou Keita, Alaw, Gwyneth Glyn, a 9Bach – gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Ymhlith y partneriaid cenedlaethol blaenorol oedd Ynys y Tywysog Edwart (2017), Fflandrys (2016) a Denmarc (2015).

Mae EFEx yn gyfle i weld deugain o artistiaid ar draws tri diwrnod sy’n wledd i’r cynadleddwyr gyda digwyddiadau rhwydweithio, ffair fasnach, cyfleoedd arddangos talent i labeli a sawl derbynwest. Ymddengys yr artistiaid o Gymru yng Ngŵyl Werin Manceinion (sef wyneb cyhoeddus EFEx) gerbron 180 o raglennwyr gwyliau a lleoliadau, y cyhoedd, asiantiaid, aelodau o’r cyfryngau a’r wasg a phenderfynwyr yn y diwydiant o Brydain a thramor.

Rôl Trac Cymru yn EFEx yw rhoi gwybod i’r diwydiant gwerin yn ein gwledydd cyfagos am y gerddoriaeth draddodiadol ragorol ac arloesol sy’n dod allan o Gymru a’u cynghori ar sut i gyrraedd, cwrdd ac archebu ein bandiau i berfformio yn eu gwyliau, clybiau, a chanolfannau celfyddydol.