Y Wasg a’r Cyfryngau

Nodiadau i olygyddion

Sefydliad datblygu diwylliant gwerin Cymru yw Trac Cymru; mae’n gweithio i hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddoriaeth a dawns Cymru, yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n ymddwyn fel eiriolydd ar ran y celfyddydau traddodiadol gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill. Fe gafodd ei sefydlu yn 1997 ar sail y gred gyffredin ym mhwysigrwydd a gwerth diwylliant traddodiadol Cymru, ymwybyddiaeth o’i pherthnasedd parhaus i’r presennol, ac angerdd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i’w cynnig.

Heddiw, mae Trac Cymru yn datblygu cerddoriaeth a dawns werin Cymru mewn modd strategol drwy feithrin diddordeb a thalent a chyflwyno cerddorion gwerin gorau Cymru ar draws y byd. Fe welwch Trac Cymru ar waith mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol, ar gaeau gwyliau a mewn digwyddiadau arddangos rhyngwladol, yn helpu i sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn parhau i gyfoethogi bywydau waeth bynnag oedran, cefndir, hil, neu iaith.

Yn 2000 daeth Trac Cymru yn Elusen Gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant. Maen cael ei redeg gan dîm gweithredol a gaiff ei gefnogi gan fwrdd o ymddiriedolwyr ymroddgar sydd yn teimlo’n angerddol dros ddiwylliant gwerin ac yn arbenigwyr yn eu meysydd perthnasol.

Adnoddau lluniau