Dyma’r tîm

Tîm Gweithrediadau

Cyfarwyddydd

Danny KilBride

Mae gan Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol Trac Cymru, Danny KilBride, gyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu’r sefydliad a gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer celfyddydau cynhenid, traddodiadol Cymru. Yn ogystal â’n gwaith ym myd addysg gerddorol a phrosiectau ymgysylltu, mae Danny yn arwain y gwaith o ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol, datblygu CPD ar gyfer ein sector proffesiynol a mentora busnes ar ran diwydiant gwerin Cymru.
Mae’n aelod gweithredol o Undeb y Cerddorion, ac yn gwasanaethu ar ei Bwyllgor Byw. Mae’n mynychu WOMEX, Folk Alliance International, Showcase Scotland a’r English Folk Expo yn rheolaidd, wedi sefydlu Rhwydwaith Werin Ewrop ac yn un o Ymddiriedolwr Celtic Neighbours. Mae wedi bod yn ymgynghorydd cenedlaethol i gorff cyllido Celfyddydau Cymru, sef Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn gwasanaethu ar banel Rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru.
Yn anad dim, mae Danny yn gerddor. Perfformiodd ar y lefel broffesiynol am y tro cyntaf gyda band gwerin ei fam pan oedd ond yn 8 mlwydd oed, ac mae wedi bod yn perfformio byth oddi ar hynny. Mae wedi
ymddangos ar fwy nag 20 CD, wedi perfformio’n fyw ar y teledu i dros 5,000,000 o bobl ac wedi perfformio ar daith yn y DU, Ewrop a’r UD.
I glywed ei gerddoriaeth chwiliwch am Taran, Yr Hwntws, Carreg Lafar, a’r Rag Foundation.
Rheolydd y Cwmni

Megan Lloyd

Mae Megan wedi bod yn rhedeg busnes ei hun ers 8 mlynedd cyn ymuno a thîm Trac Cymru. Mae hi yn Rheolydd Cwmni profiadol ac yn angerddol am gerddoriaeth Gwerin Cymraeg a thraddodiadau Celtaidd. Mae hi’n hoffi mynychu gigs byw a gweithio hefo artistiaid Cymraeg. Mae Megan yn ‘miwso’ mawr ac yn caru canu ac ymuno mewn sesiynau cerddorol yn ei chartref yn Eryri. Yn ogystal â hyn mae hi’n hoff o ymchwilio llên gwerin a thraddodiadau brodorol Cymraeg. Mae hi’n ysgrifennydd brwd a darllenydd mawr o farddoniaeth ac mae hi’n hoffi treulio amser yn yr awyr agored.
Rheolwr Datblygu Busnes

Simon Morris

Mae Simon wedi gweithio ym maes datblygu’r celfyddydau am dros 20 mlynedd, ac mae’n arbennig o angerddol ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio fel prif weithredwr i 2 elusen, Blue Apple Theatre ac Openstorytellers, sy’n cefnogi perfformwyr sydd ag anawsterau dysgu. Cyn hynny, roedd yn gweithio fel rheolwr hŷn yng Nghanolfan Caersallog, ac y gyfrifol am ddatblygu gwaith ymgysylltu a rhaglen gyfranogi’r elusen. Cyn gweithio yno bu’n gyfarwyddwr yn Coventry Artspace lle y treuliodd 10 mlynedd yn datblygu prosiectau cymunedol ar draws y ddinas. Mae hefyd wedi gweithio am gyfnodau fel artist gweledol llawrydd ac fel darlithydd mewn amrywiol brifysgolion a cholegau.

Mae Simon wedi arwain y ffrydiau incwm cymhleth ar ran yr amrywiol sefydliadau y mae wedi gweithio iddynt, gan weithredu o fewn fframweithiau’r cyllidwyr grant mwyaf a llawer o ymddiriedolaethau llai, yn ogystal â drwy gytundebau a gomisiynwyd ac ymgyrchoedd denu rhoddion.

Er bod Simon yn honni taw ei sgiliau tynnu lluniau ac arlunio yw ei brif sgilset, mae hefyd yn gerddor ac yn chwarae amrywiol offerynau i wahanol safonau, gan gynnwys y gitâr acwstig a thrydan, yr iwcaleli a’r drymiau.

Mae Simon yn dysgu Cymraeg.

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Seren Ni Owain

Ymunodd Seren â Trac Cymru yn 2022 fel swyddog marchnata a chyfathrebu. Ei rôl yw diweddaru ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gydag unrhyw ddigwyddiadau, cyhoeddiadau, hyrwyddo cyffredinol a marchnata, yn ogystal â chreu cynnwys hyrwyddo a chyfathrebu.

Cyn ymuno â'r sefydliad graddiodd Seren o Brifysgol De Cymru mewn Hybu Ffasiwn, ac aeth ymlaen i gael profiad mewn sawl rôl a oedd yn cynnwys marchnata cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys a dylunio.

Mae gan Seren gariad enfawr at gerddoriaeth werin a thraddodiadol Cymru ac mae wedi bod yn rhan o'r sîn werin am y rhan fwyaf o'i bywyd oherwydd bod ei rhieni'n gerddorion Cymreig. Mae hi wrth ei bodd yn mynychu gigs gwerin, ac wedi gwneud o oedran ifanc.

Er nad yw Seren yn berfformiwr neu'n gerddor ei hun ar hyn o bryd mae hi wrth ei bodd yn canu, ac wedi perfformio caneuon gwerin Cymraeg mewn lleoliadau cyhoeddus yn y gorffennol.

Swyddog Datblygu

Jordan Price Williams

Mae Jordan Price Williams, un o raddedigion CBCDC, wedi cerfio cilfach iddo’i hun fel un o brif ddehonglyddion cenhedlaeth newydd o soddgrythwyr traddodiadol Cymreig. Fel aelod o VRï, NoGood Boyo, Pendevig ac Elfen, mae Jordan wedi perfformio ar draws y byd ac wedi derbyn gwobrau ac enwebiadau lluosog. Mae Jordan yn wir aml-offerynnwr; Gyda’r soddgrwth, bas dwbl, chwiban, harmonium, piano ac weithiau bach o sachbib i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn ei yrfa. Mae hefyd yn ganwr, yn perfformio bron yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg.

Ymunodd Jordan â thîm Trac Cymru i gydlynu prosiect Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

Darn hanfodol o'r jig-so

Ein tîm o weithwyr llawrydd

Mae gweithwyr llawrydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i gyflawni ein gwaith. Mae rhai yn gerddorion a thiwtoriaid profiadol; mae rhai yn gweithio mwy gyda chydlynu prosiectau.
Os mai chi yw hwn, ac yr hoffech fod yn rhan o'n cynlluniau ehangu ar gyfer gweithgarwch gwerin ledled Cymru, anfonwch eich CV at ein Rheolydd Cwmni yn trac@trac-cymru .

Ymddiriedolwyr

Cadeirydd y Bwrdd

Prof. James Blythe

Mae Jim yn awdur ac yn gyn-ddarlithydd marchnata ym Mhrifysgol Morgannwg, ac mae ganddo ddiddordeb hirsefydlog mewn cerddoriaeth.
Ymddiriedolydd

Dr. Stuart Robb

Mae Stuart yn Bennaeth Partneriaethau Cydweithredol (Cysylltiadau Partneriaeth) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ganddo gefndir mewn cerddoriaeth, gyda PhD mewn cerddoleg. Mae’n aelod o Gyngor ac yn Ymddiriedolwr Prifysgol Cymru ac yn Gyfarwyddwr ac yn Ymddiriedolwr Cronfa Etifeddiaeth Y Werin.
Ymddiriedolydd

Ywain Myfyr

Rwyf wedi ymddiddori yn y traddodiadau gwerin ers fy arddegau. Taniodd Alan Stivell, Planxty ac eraill genhedlaeth gyfa’ yng Nghymru ar ddechrau’r 70au i chwilio am ein traddodiadau ni ein hunain fel cenedl. Dyma esgorodd y gyfnod y ‘dadeni cyntaf’ ac rwyn falch o nodi fod gennyf ran fechan yn hynny trwy sefydlu Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau yn 1979 ac fel aelod o’r grŵp blaengar Cilmeri yn yr un cyfnod.

Yn ddiweddarach esblygodd hyn i Sesiwn Fawr Dolgellau yn 1992, gŵyl sy’n rhoi llwyfan teilwng i’n traddodiadu cerddorol ac sy’n dal i fynd o nerth i nerth hyd heddiw. Bu’m yn ysgrifennydd i’r ŵyl ers y cychwyn. Rwyf hefyd yn aelod o’r grŵp Gwerinos, grŵp a sefydlwyd yn wreiddiol i geisio poblogeiddio twmpathau dawns ond a esblygodd i sawl cyfeiriad gan gydnabod a bod yn driw i’n traddodiadau.

Yn 2007 wedi blynyddoedd o gynllunio, ymgyrchu ac ymgeisio agorodd Tŷ Siamas yn Nolgellau fel ‘Canolfan Gerddoriaeth Draddodiadol Cymru.’ Ers hynny fe esblygodd y ganolfan trwy reidrwydd a newidiodd ei defnydd ychydig ond erys yn driw i’r dyhead o roi llwyfan i drosglwyddo ein traddodiadau.

Roedd fy swydd yn ‘ystod y dydd’ ym myd addysg a treuliais bron i ddeugain mlynedd fel athro, ymgynghorydd a phennaeth yn y sector gyntadd.

Ymddiriedolydd

Gwenno Roberts

Mae Gwenno wedi cymryd rhan a gweithio gyda Trac Cymru ers yn ifanc, yn gyntaf yn mynychu ac yn ddiweddarach yn diwtora eu gweithdai fel feiolinydd. Mae ei rhan yn y sîn gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru hefyd wedi gweld Gwenno yn arwain Y Glerorfa, Cerddorfa Werin Genedlaethol Cymru, ac mae'n eistedd ar banel 'Gwerin' yr Eisteddfod Genedlaethol.

Astudiodd Gwenno Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn mynd ymlaen i gwblhau M.A. mewn Perfformiad a Cherddoriaeth Draddodiadol Geltaidd ym Mangor.

Bu Gwenno yn gweithio am nifer o flynyddoedd fel Prif Swyddog Gŵyl Tafwyl, ac mae'n frwd dros hyrwyddo ac ehangu mynediad i'r celfyddydau yng Nghymru.

Ymddiriedolydd

Elisa Morris

Mae Elisa wedi bod yn rhan o Trac Cymru ers nifer o flynyddoedd, yn gyntaf yn mynychu Gwerin Gwallgo, yna yn gwirfoddoli yn y Tŷ Gwerin, ac yna’n llawrydd yn rheoli llwyfan Tŷ Gwerin a rhedeg cyrsiau Gwerin Gwallgo a Gwerin Iau. Ymunodd Elisa fel aelod o staff i ddatblygu cyfryngau cymdeithasol a phresenoldeb ar y we Trac Cymru.

Fel rhan o’i gradd gyntaf ymchwiliodd draethawd hir mewn daearyddiaeth gelfyddydol oedd yn cynnwys trafodaeth o ddiwylliant traddodiadol a hunaniaeth Gymreig. Aeth ymlaen i dderbyn gradd feistr mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn dechrau swydd yn Opera North.

Mae’n delynores, cantores a chlocsiwr gydag Avanc a mae hi wedi yn ymhél a'r byd gwerin ers nifer o flynyddoedd. Mae Elisa’n angerddol am wneud cerddoriaeth a’r celfyddydau yn agored i bawb.

Ymddiriedolydd

Dr. Hugh Jones

Mae Hugh wedi ymddeol yn ddiweddar fel Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ganddo brofiad o rolau llywodraethiant allanol ar bwyllgorau ysgol, eisteddfod a llywodraeth. Fel sawl oedolyn sy’n dychwelyd i gerddoriaeth hir wedi dyddiau ysgol, cafodd ei ysgogi i “roi tro arni” ag alawon traddodiadol gan ddarganfod rhyddid chwarae wrth y glust. Daeth anogaeth bellach trwy weithdai gwerin Cymreig i bob oedran a gynhaliwyd gan Trac Cymru a Clera (Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru).
Ymddiriedolydd

Chi?

Os oes diddordeb gennych, gofynnwch am gopi o'n Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr

Noddwyr

Noddwr

Kevin Brennan

Kevin Brennan yw Cadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer y Celfyddydau Gwerin. Mae’n AS Llafur dros Orllewin Caerdydd a Gweinidog yr Wrthblaid Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Celfyddydau a Threftadaeth.
Noddwr

Huw Stephens

Huw Stephens yn gyflwynydd radio â sioeau ar BBC Radio 1 a BBC Radio Cymru, ac yn un o sylfaenwyr yr ŵyl Swn.
Noddwr

Dafydd Iwan

Dafydd Iwan yw’r canwr gwerin protest Cymreig mwyaf eiconig, ac un o sylfaenwyr Recordiau Sain, cwmni recordiau mwyaf Cymru.
Noddwr

Frank Hennessy

Mae Frank yn berfformiwr a chyfansoddwr, ac yn hen ffrind i trac. Mae e’n cyflwyno ‘Celtic Heartbeat’ i BBC Radio Wales- rhaglen am wreiddiau Gwerin a cherddoriaeth acwstig.