Dyfodol y Traddodiad

a Thraddodiad y Dyfodol

Mae Trac Cymru yn hybu diddordeb, magu talent a chyflwyno’r gorau o gerddorion gwerin Cymru drwy’r byd. Rydym yn cynnal cyrsiau un-dydd, a chyrsiau preswyl i helpu’r rhai brwdfrydig a phroffesiynnol i hogi eu sgiliau ac i ddatblygu talent ar draws ein celfyddydau traddodiadol. Fe’n gwelir ni’n gweithio mewn ysgolion, cymunedau, ar feysydd gwyliau ac mewn arddangosfeydd rhygwladol i sicrhau fod y celfyddydau traddodiadol yn Nghymru yn parhau i gyfoethogi bywyd, beth bynnag eich hoedran, cefndir, hil neu iaith.

Ein Gweledigaeth

Mae ein Gweledigaeth yn rhoi celfyddydau traddodiadol Cymru wrth galon bywyd cyfoes Cymru.

Ein Cenhedaeth

Ein Cenhadaeth yw sicrhau diwylliant llewyrchus o fewn Cymru gyda’i wreiddiau yn y traddodiad gwerin.
Gan weithio gyda cherddorion, dawnswyr a chantorion o bob oed a lefel, byddwn yn sicrhau newid cadarnhaol i unigolion, cymunedau a’n treftadaeth ddiwylliannol trwy draddodiad byw y celfyddydau gwerin.

Mae Trac Cymru yn Elusen Cofrestredig, Rhif 1085422, ac yn aelod Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru.