Codi Pryderon

 

Bwriad yr adran hon yw rhoi gwybodaeth i chi, defnyddiwr gwasanaethau Trac Cymru, i’ch cynorthwyo i godi unrhyw bryderon. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth proffesiynol i bawb y byddwn yn dod i gysylltiad â nhw. Pan aiff rhywbeth o’i le, mae angen i chi ddweud wrthym amdano. Bydd hyn yn ein helpu i wella ein safonau.

Os ydych chi’n meddwl bod Trac Cymru wedi methu â darparu’r gwasanaeth neu’r safon rydych chi’n ei ddisgwyl gennym ni, rhowch wybod i ni drwy godi eich pryderon gyda’ch cyswllt uniongyrchol e.e. tiwtor cwrs, neu aelod o’n staff.

Os yn bosibl, gwnewch hyn pan fydd y broblem yn codi oherwydd gall problemau gael eu datrys yn gyflym ar y ffas; os byddwch yn oedi cyn dod â phroblem i’n sylw, byddwn yn gofyn i chi am adroddiad ysgrifenedig manwl fel y gellir ymchwilio’n drylwyr i’ch pryder. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich crynodeb ysgrifenedig, byddwn yn cydnabod ei dderbyn o fewn tri diwrnod gwaith gan amgáu copi o’r weithdrefn hon.

Yna byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn. Fel arfer bydd ein Cyfarwyddwr yn delio â hyn, a fydd yn ysgrifennu atoch o fewn 15 diwrnod gwaith i anfon y gydnabyddiaeth. Os teimlwch ar hyn o bryd nad yw eich cwyn wedi cael ei hateb yn foddhaol gallwch gyfeirio eich achos at Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr.

Bydd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr yn adolygu eich cwyn, sut y deliwyd â hi, ac efallai y bydd yn gofyn am gyngor, oddi mewn neu oddi allan i Trac Cymru, ar sut i ddatrys unrhyw faterion sydd heb eu datrys. Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Mae ein gweithdrefnau rheoli mewnol yn ei gwneud yn ofynnol i bob mater a godir cael ei adrodd i’n Cyfarwyddwr, a fydd yn hysbysu Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, a bydd adroddiad o’r mater yn ymddangos fel eitem agenda yng nghyfarfod nesaf bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Rhestrir manylion cyswllt ein staff isod:

Rheolwr – Megan Lloyd, trac@trac-cymru.org, 07467 184143
Cyfarwyddwr – Danny KilBride, cyfarwyddydd@trac-cymru.org

Dylid delio ag achosion brys yn ôl yr angen i gael y cymorth angenrheidiol.