Eirioli

Mae Trac Cymru yn eirioli ar ran y celfyddydau traddodiadol
Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn gonglfein hunaniaeth ein gwlad. Mae ein cerddoriaeth, ein caneuon, ein cerdd dant, dawns a chwedleua yn cynrychioli ac yn mynegi ein hanes, ein ieithoedd, ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodweddiadol. Mae’r ffurfiau creadigol hyn yn rhan annatod o’n diwylliant, ac mae’r gwerthoedd a’r emosiynau y maent yn eu mynegi yn ein rhwymo ni at ein gilydd.

Rydym yn gweithio i adnabod ardaloedd i’w datblygu a chyfleoedd i gydweithio ar draws yr sector celfyddydau traddodiadol yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn datblygu dealltwriaeth ac arfer, ac i eirioli’n weithredol ar ran y Traddodiad gyda chyrff cyhoeddus a mudiadau eraill.

Rydym yn sicrhau bod Gweinidogion a thimau Llywodraeth Cymru yn cael eu briffio, ac yn gweithio mewn partneriaeth ag adran Cymru Greadigol newydd Llywodraeth Cymru.

Kevin Brennan, AS, un o’n Noddwyr, yw cadeirydd grŵp traws bleidiol Celfyddydau Gwerin APPG San Steffan, ac ‘rydym yn ei ddiweddaru am faterion a datblygiadau yng Nghymru.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yr ydym yn derbyn cyllid refeniw ganddo.

Datganiad Gregynog

Pasiwyd y datganiad hwn yn unfrydol mewn cynhadledd traddodiadau gwerin wedi ei threfnu gan trac yng Ngregynog, Powys, 8 Chwefror 2003.

“Mae’r gynhadledd hon yn cydnabod bod dawnsio, canu, cerdd dant, chwedleua a chwarae cerddoriaeth yn rhan o’n genedigaeth-fraint, ac yn galw ar asiantaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau fod y cyfleoedd i wneud hynny yn cael eu hannog yn hytrach na’u herydu ymhellach.

Credwn bod y gwerthoedd sydd ymhlyg yn ein dulliau traddodiadol o fynegiant yn ein clymu wrth ein gilydd, ac mai’r her ar gyfer y dyfodol yw adnewyddu ein dulliau mynegiant mewn modd sy’n boddhau’r genhedlaeth sy’n codi ac yn anrhydeddu’r rhai blaenorol.

Mae’r gynhadledd yn galw ar Lywodraeth San Steffan, Llywodraeth Cynulliad Cymru a phob corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad:
• i barchu ein hadnoddau diwylliannol naturiol a’r rhan y gallant ac y dylent eu chwarae yn adnewyddiad economaidd a chymdeithasol Cymru, yn enwedig yn y Gymru wledig;
• i brofi pob polisi o safbwynt ei berthnasedd i’n dyhead o lwyr adfeddiannu ein genedigaeth-fraint ddiwylliannol;
• i gefnogi darpariaeth llefydd lle y gellir mwynhau diwylliant traddodiadol heb lyffetheiriau gormodol;
• i gefnogi ymreolaeth pob grwp sy’n ymhel â’r diwylliant traddodiadol;
• i annog mentrau fydd yn golygu fod ein dulliau traddodiadol o fynegiant ar gael i holl bobl Cymru.

Mae’r celfyddydau traddodiadol yn allweddol o ran clymu cymdeithas at ei gilydd ac yn fynegiant o hanes, iaith, diwylliant a ffordd o fyw arbennig Cymru. Llais y gymuned ydyn nhw. Mae’n rhaid i Gymru sicrhau fod y llais hwnnw’n cael ei glywed.”

Fel rhan o’n gwaith ‘rydym yn cyfranogi at waith nifer o bwyllgorau, gan gynnwys:
Panel Cerddoriaeth, Cymru Greadigol
Panel Cerddoriaeth Werin yr Eisteddfod Genedlaethol
Fforwm Partneriaeth Cerdd Cymru
Musicians Union Live
Artworks Alliance
Rhwydwaith Gwerin Ewrop (ar y Bwrdd fel aelod Sylfaenol)
Pan-World Indigenous Music Network
Cerdd Cymru Music Wales, panel partneriaeth prosiectau

Rydym hefyd yn cydweithio gyda llawer o fudiadau ar draws Cymru, yn cynnwys:
Clera
Cymdeithas Ddawns Genedlaethol Cymru
Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru
Cymdeithas Cerdd Dant
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Ty Cerdd
Creative & Cultural Skills
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Urdd Gobaith Cymru
Canolfan Mllenniwm Cymru
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (Proms Gwerin)
CânSing
Making Music
Cerddoriaeth Cymunedol Cymru
Prifysgol Cymru, Bangor
S4C
BBC Radio Wales & Radio Cymru
Gŵyl Rhyngeltaidd Cwlwm Celtaidd
Gŵyl Sesiwn Fawr
Gŵyl Green Man
Gŵyl Tafwyl
Focus Wales
British Council Cymru
Arts & Business Cymru

yn ogystal â gwaith rhyngwladol mewn cydweithrediad â
WOMEX
Folk Alliance International
EFDSS
Association of Festival Organisers
English Folk Expo
British Underground
Folkworks
Ethno
Music PEI (Canada)