Polisi Iaith Gymraeg

 

1. Cyflwyniad

1.1    Trac Cymru yw’r mudiad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Mae Trac Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaeth hollol ddwyieithog i artistiaid ac i’r cyhoedd.

1.2     Mae Trac Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes gyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut bydd trac yn yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.

1.3     Mae Trac Cymru yn derbyn y gall aelodau o’r cyhoedd fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn yr iaith sydd well ganddynt, a bod eu galluogi i wneud hynny’n fater o arfer da ac nid yn gonsesiwn, ac y gallai gwrthod yr hawl honno osod aelodau o’r cyhoedd o dan anfantais wirioneddol. Bydd trac felly, yn cynnig i’r cyhoedd yr hawl i ddewis defnyddio naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg wrth ymdrin ag ef.

1.4     Mae Trac Cymru yn gweithio mewn partneriaethau ag amrywiol gyrff. Wrth weithio gydag eraill, mae trac yn derbyn bod arno gyfrifoldeb i dynnu sylw pob partner at ystyriaethau ieithyddol.

1.5     Bydd yr holl fesurau sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Iaith Gymraeg Trac Cymru yn berthnasol i holl weithgareddau Trac Cymru. Bwriad Trac Cymru yw cynnig gwasanaeth o’r un safon uchel yn y Gymraeg ag yn y Saesneg.

 

2. Gohebiaeth Ysgrifenedig

2.1     Mae croeso i artistiaid, mudiadau celf a’r cyhoedd ohebu gyda Trac Cymru yn y Gymraeg neu’r Saesneg, yn unol â’u dewis.

2.2     Caiff llythyron a dderbynnir gan Trac Cymru yn Gymraeg eu hateb yn y Gymraeg. Bydd trac yn ateb pob gohebiaeth, boed yn y Gymraeg neu’r Saesneg, o fewn yr un terfynau amser.

 

3. Ffôn

3.1     Mae Trac Cymru yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg.  Caiff galwyr eu cyfarch yn ddwyieithog, gan ei gwneud hi’n amlwg drwy hynny i bawb sy’n galw bod croeso iddynt ddefnyddio’r iaith sydd orau ganddynt.

3.2     Bydd peiriannau ateb yn dwyn neges ddwyieithog wedi ei recordio a bydd croeso i alwyr recordio neges yn y naill iaith neu’r llall. Ymatebir i’r neges a recordiwyd yn yr iaith a ddefnyddiwyd gan y galwr.

 

4. Mathau eraill o gyswllt â’r Cyhoedd

4.1     Os bydd Trac Cymru yn cynnal cyfarfod y gwahoddir y cyhoedd iddo, bydd yn galluogi aelodau i gyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd yn gwneud hyn drwy sefydlu ystod o fesurau, a fydd yn cynnwys, pan yn briodol:

a) cyfleusterau cyfieithu

b) cadeirydd, aelodau panel neu arweinydd prosiect dwyieithog.

c) cyfarwyddiadau priodol i sicrhau bod yn gynhwysol.

4.2     Hysbysebir unrhyw weithgareddau cyhoeddus yn ddwyieithog a bydd gan Trac Cymru staff yn bresennol a all gyfarch pobl a thrafod busnes yn y Gymraeg.

 

5. Hunaniaeth Gorfforaethol

5.1     Mae Trac Cymru yn mabwysiadu ac yn cyflwyno hunaniaeth gorfforaethol gwbl ddwyieithog gan arddangos ei enw (a’i gyfeiriad, pan fo’n briodol) yn ddwyiethog ar bob logo, papur pennawd, cerdyn busnes, bathodyn adnabod a defnyddiau a nwyddau corfforaethol eraill.

5.2     Bydd fformat, maint, safon, eglurdebac amlygrwydd yr ieithoedd yn union yr un fath ar holl ddefnyddiau, nwyddau ac arwyddion Trac Cymru, ac ymdrinnir â’r ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal.

 

6. Cyhoeddi ac Argraffu Deunydd

6.1     Bydd Trac Cymru yn cyhoeddi pob deunydd ysgrifenedig neu ddeunydd a drosglwyddir yn electronig a gyfeirir at y cynhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ymhob achos, bydd fformat, safon, eglurdeb ac amlygrwydd y ddwy iaith yn union yr un fath, ac ymdrinnir â’r ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal.

Adolygwyd a chytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Trac Cymru ar 20 Medi 2022.