Polisi Preifatrwydd

 

1. Datganiad Polisi

1.1 Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r modd y mae trac yn ymdrin â’r wybodaeth a ddysgwn amdanoch pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan neu’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae diogelu preifatrwydd a data personol ein hymwelwyr yn hynod bwysig inni.

1.2 Gallwch bori ar wefan Trac Cymru heb ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch eich hun. Mae ein Cyfeiriadur a’n Dyddiadur yn cynnwys gwybodaeth fel manylion cyswllt sydd, os ydych chi wedi’ch rhestru, byddwch wedi rhoi i ni i gyhoeddi er mwyn i bobl fynychu’ch digwyddiadau neu ddefnyddio’ch gwasanaethau cerddorol.

1.3 Nid ydym yn cofnodi data personol yn awtomatig nac yn cysylltu gwybodaeth a logwyd yn awtomatig trwy ryw fodd arall gyda data personol am unigolion penodol.

1.4 Rydym yn casglu’r data personol a roddir gennych o’ch gwirfodd tra byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Nid ydym yn casglu gwybodaeth am ein hymwelwyr o ffynonellau eraill, trwy gofnodion neu oddi wrth gyrff cyhoeddus neu sefydliadau preifat.

2. Cyfrinachedd / Diogelwch

2.1 Bwriadwn ddiogelu safon a dilysrwydd eich gwybodaeth bersonol. Mae technolegau a pholisïau diogelwch wedi’u rhoi ar waith gan Trac Cymru i ddiogelu data personol a storiwyd gan ein defnyddwyr rhag mynediad diawdurdod, defnydd amhriodol, newid, difetha anghyfreithlon neu ddamweiniol a cholled ddamweiniol. Byddwn yn parhau i wella ein gweithdrefnau diogelwch wrth i dechnoleg newydd ddod i’n rhan.

2.2 Mae’n rhaid i gyflogeion Trac Cymru sydd yn gallu cael gafael ar ddata personol barchu preifatrwydd ein hymwelwyr a chyfrinachedd eu data personol.

2.3 Rydym yn sicrhau na fydd eich data personol yn cael ei datgelu i sefydliadau ac awdurdodau trydydd parti heb eich caniatâd ac eithrio os bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu reoliad arall.

3. Cwcis3.1 Casglwn wybodaeth ddienw sy’n mesuro nifer yr ymweliadau â pharthau gwahanol ein gwefan i’n helpu i wneud ein gwefan yn fwy defnyddiol i ymwelwyr.

3.2 O bryd i’w gilydd dadansoddwn y data hwn i fesuro’r defnydd ar ein gweinyddion, nifer y tudalennau yr ymwelir â hwy a lefel y galw arnynt a’r pynciau sydd o ddiddordeb. Mae’n bosibl y cedwir y cofnodion hyn am byth a’u defnyddio ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw ffordd i atal tanseilio diogelwch a sicrhau uniondeb y data ar ein gweinyddion.

3.3 Defnyddiwn wahanol dechnolegau i’w wneud, ac un ohonynt yw ‘cwcis’. Elfen o ddata yw cwci y gall y wefan ei hanfon at eich porydd y gellid ei gadw ar eich gyrrydd caled.

3.4 Gosodwn cwci i drafod dewis iaith ac unrhyw ail-lwytho ffurflenni. Nid ystyrir y cwci parti cyntaf yn un dewisol.

3.5 Defnyddiwn 5 cwci trydydd parti a osodir gan Google Analytics (GA). Rydym yn defnyddio GA i gasglu gwybodaeth ddienw am ymweliadau gwefan i’n helpu i wneud ein profiad gwefan yn well. Rydym hefyd yn defnyddio GA ar y cyd â data chwilio i nodi pa mor aml y caiff y cynnwys ei chwilio a’i weld.

Ni ddefnyddiwn y wybodaeth i dargedu hysbysebion neu drosglwyddo data i unrhyw rai eraill. Bydd y wefan yn gweithio heb gwcis GA. I ddiffodd cwcis GA yn eich porydd, dilynwch y ddolen hon http://www.aboutcookies.org/

4. Cydymffurfiad Preifatrwydd

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth ganlynol:
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Deddf Diogelu Data 1998 a 2005
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 ac 1967

5. Cael Gafael ar Eich Data Personol

5.1 Gallwch ofyn inni a ydym yn cadw data personol amdanoch a gallwch hefyd ofyn am gopi o’r data personol hwnnw. Cyn anfon unrhyw ddata personol atoch byddwn yn gofyn am brawf o’ch hunaniaeth. Oni allwch ddarparu prawf o’r fath, cedwir yr hawl i wrthod anfon eich data personol atoch.

5.2 Gwneir pob ymdrech i ymateb yn amserol i’ch ceisiadau neu i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich gwybodaeth bersonol. Gallwch ofyn inni ddileu neu gywiro’r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch ar unrhyw adeg. Cyfeiriwch ymholiad o’r fath at Reolydd Trac Cymru , ar  trac@trac-cymru.org

Cytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Trac Cymru ar 20 Medi 2022.