

Gwerin Gwallgo
Cwrs preswyl bywiog i bobl ifanc o 11 i 18 mlwydd oed yw Gwerin Gwallgo sydd fel arfer yn cael ei gynnal yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Mae’r cwrs pedwar diwrnod yn digwydd yng Nglanllyn, canolfan breswyl yr Urdd yn y Bala. Mae yna llefydd ar gael i hyd at 40 o bobl ifanc.
Beth sy’n digwydd ar y Cwrs?
Bydd gweithdai offerynnol, canu a chlocsio yn ystod y dydd, yn dilyn sesiynau anffurfiol, cyngherddau, twmpathau, a mwy gyda’r nos! Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn rhai o’r gweithdai awyr agored sydd gan Glan-llyn i’w gynnig. Tua diwedd y cwrs, bydd cyfle i berfformio.
Gweithdai offerynnol
Rhaid bod gan bob chwaraewr ei offeryn ei hun, a rhaid ei fod/bod yn gallu chwarae i o leiaf safon sylfaenol. Gofynnir i offerynwr nodi ei lefel profiad ar y ffurflen gofrestru, gan ddewis un o’r opsiynau canlynol:
- Dechreuwr: yn meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o’r offeryn; yn gallu chwarae graddfeydd syml ac ychydig o alawon syml.
- Canolradd: chwaraewr sy’n dechrau ennill hyder a sy’n weddol gyfarwydd â gwahanol mathau o alawon.
- Uwch: chwaraewr hyderus sydd wedi cael tipyn o brofiad perfformio.
Nid yw’r gallu i ddarllen cerddoriaeth, neu brofiad blaenorol o gerddoriaeth werin, yn ofynnol. Ar ôl y traddodiad, bydd y rhan fwyaf o’r gweithdai yn cael eu dysgu ar y glust.
Gweithdai Canu
Mae’r gweithdai canu yn agored i bawb. Nid oes angen profiad blaenorol o ganu gwerin.
Gweithdai Dawnsio
Yn dibynnu ar y gyfranogwyr, weithiau mae dau ddosbarth dawnsio clocsio; un canolradd ac un uwch.
Mae’r rhestr o diwtoriaid dros y blynyddoedd wedi cynnwys rhai o brif enwau gwerin Cymru, gan gynnwys Jordan Price Williams, Aneirin Jones a Patrick Rimes (Vri); Oli Wilson-Dickson (Alaw), Bethan Rhiannon (Calan), Rhys Morris (Avanc), Huw Williams, Gwen Màiri, Dan Lawrence, Branwen Haf Williams, a Gwenan Gibbard.
Beth mae pobl yn dweud amdano?
“Dwi o hyd yn edrych ‘mlan at y sesiynau yn Gwerin Gwallgo. Maen nhw o hyd yn fywiog ac yn lot o hwyl. Does dim nifer o gyfleoedd yng Nghymru i grŵp o bobl ifanc i ddod at ei gilydd a mwynhau chwarae cerddoriaeth gwerin mewn modd anffurfiol. Mae chwarae gyda phobl yr un oedran a fi yn gwneud fi’n fwy angerddol am y gerddoriaeth sy’n golygu fy mod eisiau parhau i ddatblygu fy sgiliau chwarae ym mhellach.”
“Mae’n dda fod y tiwtoriaid yn bobl sy’n perfformio ar y sin a bod nhw ddim jyst yn athrawon cerdd da. Mae hyn yn golygu fod y bobl ifanc yn dod ar draws pob math o fandiau a cherddoriaeth newydd. Mae diddordeb y bobl ifanc y golygu fod yn sin yn tyfu sydd wedyn yn bwydo nôl mewn i lwyddiant Gwerin Gwallgo drwy ddenu mwy o bobl ifanc i chwarae cerddoriaeth gwerin.”
“Gwerin Gwallgo yw’r unig siawns dwi’n cael i ddysgu clocsio. Mae’r awyrgylch ar y cwrs yn un hynod gyfeillgar a dwi wedi neud lot o ffrindiau dros y blynyddoedd”.
Y darlun mwy
Mae Gwerin Gwallgo yn ein helpu i ddod â’r genhedlaeth nesaf o gerddorion a thiwtoriaid proffesiynol ymlaen yn ogystal â’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth werin a dawnsio i’r hwyl ohoni. Tyfodd o benwythnos gwerin Trac Cymru, yr Arbrawf Mawr, fel ffordd i roi digwyddiad eu hunain i’n harddegau talentog. Ffurfiodd bandiau ifanc fel Beca a Tant yno, a rhoddodd gyfleoedd i rai yn eu harddegau hŷn ddychwelyd fel gwirfoddolwyr. Aeth rhai, fel Aneirin Jones o Vri a Rhys Morris o Avanc, ymlaen i fod yn diwtoriaid cynorthwyol ac yna’n diwtoriaid proffesiynol llawn ar y cwrs. Aeth nifer o ‘raddedigion’ eraill ymlaen i ymuno ag Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, sy’n perfformio ar hyn o bryd dan enw Avanc.
Bwrsariaethau
Mae Trac Cymru yn cynnig detholiad o fwrsariaethau i bobl ifanc sy’n wynebu rhwytrau rhag cael mynediad i gyrsiau preswyl. Cysylltwch â trac@trac-cymru.org am fwy o wybodaeth.