Polisi Diogelu

(Polisi Amddiffyn Plant ac Oedolion Agored i Niwed)

 

1. Cyflwyniad

1.1  Mae Trac Cymru wedi’i ymrwymo i ddiogelu lles plant ac oedolion agored i niwed drwy geisio eu hamddiffyn rhag niwed corfforol, rhywiol ac emosiynol.
1.2  Mae trac yn bwriadu gweithredu’r cynllun hwn drwy sicrhau bod ei holl staff a gwirfoddolwyr yn ymwybodol ohono.

2. Rheoli Risg

2.1   Bydd y mudiad yn cymryd y camau canlynol i leihau’r risg i blant ac oedolion agored i niwed trwy:-
2.1.1        Adnabod y sefyllfaoedd lle y gall risg sylweddol godi. Dylai unrhyw brosiect sy’n cynnwys cyswllt sylweddol gyda phlant ac oedolion agored i niwed:-
2.1.2         Cynllunio’r amgylchedd waith i leihau unrhyw risg i gleientiaid, ac wrth deithio i ac o’r gweithle.
2.1.3         Cadw i’r isafswm gysylltiad un-i-un di-orchwyl, gan gynnwys teithiau car.
2.1.4         Osgoi sefyllfa lle y bydd staff neu wirfoddolwyr yn ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi neu yn eu gwahodd i’w cartrefi eu hunain, onibai bod eraill yn bresennol.

2.2  Hyfforddiant
Bydd trac yn darparu hyfforddiant priodol i staff a gwirfoddolwyr ynglŷn â diogelu/ gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed.

3. Staff a Gwirfoddolwyr

3.1  Recriwtio

Fel rhan o’r broses recriwtio, dylid gofyn i ymgeiswyr i:-
3.1.1        ddatgelu unrhyw gollfarn droseddol
3.1.2         gyflwyno tystiolaeth hunaniaeth
3.1.3         roi manylion o unrhyw waith blaenorol gyda phlant ac oedolion agored i niwed
3.1.4        i roi enwau canolwyr all roi sylw ar waith blaenorol gyda phlant ac oedolion bregus
3.1.5        os nad yw’r ymgeiswyr wedi gweithio gyda phlant ac oedolion bregus o’r blaen gofynnir gyflwyno geirda gan ganolwr sy’n medru gwneud sylwadau ar haddasrwydd yr ymgesiwyr, o ran cymeriad.
3.1.6        Cynhelir gwiriadau y GDG (DBS) fel rhan o’r paratoadau ar gyfer prosiectau.

3.2. Cyfnod Prawf
Dylai’r holl staff a gwirfoddolwyr dreulio cyfnod prawf o dan oruchwyliaeth. Dylai’r arolygydd wneud ymdrech i arsylwi arnynt wrth eu gwaith yn ystod y cyfnod hwn. Os na fydd eu cyfnod prawf cychwynnol yn digwydd cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed, dylent gael eu goruchwylio pan fyddant yn gweithio gyda grwpiau felly am y tro cyntaf. Dylai’r goruchwyliwr ysgrifennu unrhyw sylwadau ar eu gwaith yn y ffeil bersonél.

3.3  Datgelu
Dylid gwneud hi’n hysbys i’r holl staff a gwirfoddolwyr  bod arnynt ddyletswydd i ddod ag unrhyw ymddygiad amheus at sylw’r mudiad ac i adrodd yn ddiymdroi ar unrhyw honiadau.

4. Ymateb i bryderon ar faterion amddifyn

4.1  Dylid rhannu unrhyw bryderon gyda’r arweinydd prosiect penodol a/neu cadeirydd Trac Cymru. Dylid hysbysu’r cadeirydd ar fyrder bod ymchwiliad wedi dechrau, gan nodi enw’r person sy’n cynnal yr ymchwiliad hwnnw.

4.2  Yn anaml iawn ym myd gwarchod plant y wynebir sefyllfaoedd gwir argyfyngus. Mae’n werth treulio amser i fyfyrio ar y wybodaeth, ystyried y posibiliadau a chynllunio cynllun gweithredu. Dylid bod yn ymwybodol o’r effaith ar staff, gwirfoddolwyr a’u teuluoedd a bod angen cymorth yn ystod unrhyw broses o ymchwilio.

4.3         Dylid casglu gwybodaeth sy’n berthnasol i:-
4.3.1        y math o beth sy’n peri pryder
4.3.2        o ble y daeth y wybodaeth
4.3.3        pa wybodaeth arall sy’n hysbys am yr unigolyn a’i deulu
4.3.4        barn yr aelod o staff neu wirfoddolwr
Dylid trin unrhyw wybodaeth a gesglir yn gyfrinachol, a dylid trafod y fath wybodaeth yn unig gydag arweinydd y prosiect a’r ymddiriedolwyr hynny sy’n rhan o’r ymchwiliad.

4.4  Dylai pwy bynnag sy’n gwneud yr archwiliad:-
4.4.1        Gyflwyno adroddiad ysgrifenedig at fwrdd yr ymddiriedolwyr
4.4.2        Argymell pa beth y dylid ei wneud ynghylch y mater
4.4.3        Os yn briodol, hysbysu asiantaethau eraill megis yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol mewn modd amserol.

4.5  Wedi i’r mater o dan sylw gael ei ymchwilio bydd y bwrdd yn adolygu effeithioldeb yr ymateb. Dylai cynnal adolygiad o’r math yn flynyddol man pellaf. Yr is-bwyllgor adnoddau dynol, ynghyd â’r cadeirydd a ddylai gymryd y cyfrifoldeb am gychwyn adolygiad o’r math.

4.6  Argyfwng
4.6.1        Os anafir unrhyw un yn ddifrifol, dylai aelod o staff neu wirfoddolwr sicrhau bod triniaeth feddygol yn cael ei dderbyn cyn gynted â phosibl.
4.6.2        Mewn sefyllfa ymosodiad neu os yw unrhywun y bygwth niwed, dylai staff neu wirfoddolwyr ffonio’r heddlu ar unwaith.

Adolygwyd a chytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Trac Cymru ar 20 Medi 2022.