Gweithio gydag artistiaid gwerin proffesiynol – rhai straeon llwyddiant

Mae Trac Cymru yn cydweithio gyda pherfformwyr i ddatblygu ein sîn gwerin ar lefel broffesiynol. O fideos a datblygu cynulleidfaoedd i ymchwil a pherfformiaid byw, rydym wedi cynnal nifer o brosiectau arloesol gydag artistiaid proffesiynol ar bob cam o’u gyrfaoedd. Dyma rhai o’n prosiectau creadigol:

10 Mewn Bws: roedd y prosiect torri-tir-newydd hwn wedi dod â deg cerddor ifanc o amrywiol gefndiroedd cerddorol at ei gilydd a’u cyflwyno i gelfyddydau traddodiadol – a chynheiliaid traddodiad – Cymru

Tune Chain: mae alawon a thraddodiad yn ffurfio cadwyn wrth i naw chwaraewr ddod yn ddolenni sy’n dangos y ffordd y mae cerddoriaeth yn cael ei throsglwyddo

Dros y Ffin / Beyond the Border: tri cherddor ifanc o Gymru a thri o Loegr yn archwilio’n hetifeddiaeth gyffredin, a’r gwahaniaethau sydd rhyngom

Ffwrnes Gerdd : cerddorion a chantorion yn rhannu eu cerddoriaeth, eu caneuon a’u straeon

Ffwrnes Gerdd

Dros y Ffin

Clustfeiniau

10 Mewn Bws