Polisi Diwylliannol

 

1. Rhagymadrodd

Diben Trac Cymru yw hybu addysg y cyhoedd drwy hyrwyddo’r celfyddydau traddodiadol a’r celfyddydau sydd wedi eu seilio ar y traddodiadol gan gynnwys cerddoriaeth, cân a dawns (ond heb eithrio ffurfiau eraill) drwy weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan ac i godi safonau.

Anelir at y nôd a’r amcanion hyn yng nghyd-destun Polisi Diwylliannol Trac Cymru.

2. Polisi Diwylliannol Trac Cymru

2.1  Mae Polisi Diwylliannol Trac Cymru:

2.1.1   yn parchu traddodiad
2.1.2   yn parchu cyfraniad pobl o bob oed
2.1.3   yn parchu egwyddorion cyfle cyfartal
2.1.4   yn parchu etifeddiaeth ddiwylliannol yr iaith Gymraeg

2.2  Prif nod Trac Cymru yw sichrau parhâd o ddiwylliant traddodiadol Cymru a fe’i sefydlwyd oherwydd pryder dybryd am y dirywiad yn y parhâd hwnnw.

2.3  Mae Trac Cymru yn cydnabod y gallai ei rôl fod yn ddi-ddiwedd am fod ystod y termau ‘traddodiad’, a ‘diwylliant’ mor eang. Oherwydd hyn, yng nghyd-destun priod-waith trac ystyrir

‘diwylliant’ i fod yn derm sy’n cyfeirio at yr amrywiol fathau ar gelfyddyd.
‘traddodiad’ i fod yn derm sy’n cyfeirio at yr hyn sy’n unigryw i unrhyw gymuned ac sydd wedi ei wreiddio yn ddwfn yn y gymuned honno

2.4  Mae Trac Cymru yn gweithio tuag at gadw, parhau a datblygu y ffurfiau hynny ar gelfyddyd sy’n unigryw i gymunedau Cymru ac sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn yng Nghymru.

3. Blaenoriaethau

3.1  Oherwydd ehangder y maes, mae Trac Cymru yn derbyn bod angen blaenoriaethu rhai agweddau penodol – tra ei fod fel cymdeithas yn awyddus i gefnogi mudiadau eraill a rhwydweithio’n agos â hwy i weld gwireddu gweithgareddau eraill o’r un anian.

3.2  Mae Trac Cymru yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau

1. sy’n seiliedig ar gerddoriaeth, boed hwnnw’n offerynol yn lleisiol neu’n ddawns

2. sy’n defnyddio mwy nag un ffurf ar gelfyddyd perfformiadol.

3. sy’n trosglwyddo’r stori – ar ffurf chwedl, baled ayb

3.3  Yn unol a nod addysgol Trac Cymru, a’r awydd i gadw a pharhau’r traddodiad, yn y lle cyntaf mae trac yn gosod pwys ar brosiectau sy’n trosglwyddo’r traddodiad ac yn creu cyfleoedd i bobl fabwysiadu’r traddodiad – hy lle mae pwyslais ar ‘y gynulleidfa’ neu’r ‘rhai sy’n derbyn’ yn hytrach nag ar y ‘perfformwyr’ neu’r rhai sy’n ‘darparu a chreu’.

3.4  Yn yr ail le, mae Trac Cymru yn cefnogi datblygiad creadigol y traddodiad ac yn hyn o beth yn cenhadu dros ddeiliaid y traddodiad a cheisio sicrhau llwyfan i’w gwaith yng Nghymru a thu hwnt.

Adolygwyd a chytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Trac Cymru ar 20 Medi 2022.