Gwerin Iau

Mwy o wybodaeth ac archebu yma.

Mae Gwerin Iau yn digwydd ym Mis Chwefror 2024. Cliciwch yma i archebu.

Beth yw Gwerin Iau?

Canu, clocsio ac offerynnau i blant 8-12 oed gyda thiwtoriaid profiadol a phoblogaidd mewn ayrgylch o hwyl yw Gwerin Iau. Cyn Covid roedd yn benwythnos preswyl blynyddol a gynheliwyd yn lleoliad godidog Canolfan yr Urdd Glan-llyn ger Y Bala. Mae cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer darpariaeth fyrrach, fwy lleol.

Mae tiwtoriaid y cwrs yn arbenigwyr mewn cyflwyno cerddoriaeth a dawnsio gwerin i blant o bob oed. Gall plant ganolbwyntio ar chwarae offeryn, canu neu ddawns y glocsen. Ar gyfer yr opsiwn offerynnol mae’n rhaid i’r plant allu chwarae eu hofferyn gan fod y cwrs yn cynnwys dysgu alawon ar y glust felly nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr pur.

Wrth ei chynnal yng Nglan-Llyn, mae cyfleoedd i gymryd rhan yng ngweithgareddau awyr agored cyffrous y ganolfan, o ganŵio, rhaffau uchel, a dringo, i fowlio deg a nofio.

Edrychwch ar mwy o luniau o Gwerin Iau 2019 yma

Dros y blynyddoedd, mae’r plant wedi cael cyfle i ddysgu gyda rhai o sêr disgleiriaf y traddodiad gwerin Cymreig, gan gynnwys Angharad Jenkins a Bethan Rhiannon o Calan, Sioned Webb, Branwen Haf Williams, Mair Tomos Ifans, a Tudur Phillips.

Beth mae’r Gwerin Ifanc eu hunain yn ei ddweud amdano?

O adborth y plant, un o’r pethau pwysicaf am y cwrs yw’r cyfle i wneud ffrindiau newydd. Mae llawer o’r plant yn hoffi’r ffaith bod y cwrs yn dod â phlant o ogledd a de Cymru at ei gilydd, a’u bod yn gallu dysgu cerddoriaeth draddodiadol ar y glust, mewn lleoliad anffurfiol.

“Dyma’r tro cyntaf erioed i mi chwarae cerddoriaeth heb y llawysgrif – roeddwn i’n meddwl na fyddwn i byth yn gallu chwarae heb stondin gerddoriaeth o fy mlaen.”

“Rwyf wedi dysgu fy mod yn well ar y delyn nag yr oeddwn yn meddwl”

“Rwyf wedi dysgu os ydych yn ofni gwneud rhywbeth y gall fod yn dipyn o hwyl!”

Mae Gwerin Iau yn cynnig cymaint mwy nag addysgu am gerddoriaeth Gymreig a chelfyddydau traddodiadol – mae’n datblygu hyder, sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd cyffredinol plant wrth iddynt gael hwyl.

Y darlun mwy

Yng ngeiriau arweinydd y cwrs Angharad Jenkins “Mae Gwerin Iau yn cynnig cymaint mwy nag addysgu am gerddoriaeth Gymreig a chelfyddydau traddodiadol – mae’n datblygu hyder, sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd cyffredinol plant wrth iddynt gael hwyl.” Edrychwch ar y fideos a byddwch yn gweld cymaint o amser ysbrydoledig a gawsant!

Bwrsariaethau

Mae Trac Cymru yn cynnig detholiad o fwrsariaethau i bobl ifanc sy’n wynebu rhwytrau rhag cael mynediad i gyrsiau preswyl. Cysylltwch â trac@trac-cymru.org am fwy o wybodaeth.