Mari Lwyd

Y Fari Lwyd: ceffyl y gaeaf

Mae’r Fari Lwyd yn unigryw Gymreig, ond hefyd yn rhan o draddodiad sy’n ymestyn ar draws Ewrop a thu hwnt, ac yn ôl i gyfnod y ffigyrau siamanaidd cynharaf yn eu mygydau anifail a welir mewn paentiadau mewn ogofau. Mae arferion tymhorol, yn cynnwys caneuon a rhannu bwyd a diod yn digwydd trwy gydol y flwyddyn, ond mae defod ganolgaeaf sy’n canolbwyntio ar geffyl yn ein cyfeirio at fath arbennig o arfer gwerin.

Mae’r ceffyl – ac yn arbennig y Ceffyl Gwyn – wastad wedi hawlio lle eiconig ym mytholeg ac ymwybyddiaeth Ynysoedd Prydain. Meddyliwch am y ceffylau a dorrwyd i sialc y Downs; neu Rhiannon y Mabinogi sydd, yn ôl yr ysgolheigion, yn cyfateb i’r dduwies Epona; neu’r tabw traddodiadol sy’n bodoli ym Mhrydain yn erbyn bwyta cig ceffyl, heb sôn am y llu o arferion gwerin megis y Padstow Obby Oss neu Hooden Hoss Sir Gaint.

Mae traddodiad cryfaf a mwyaf hir-hoedlog y Fari Lwyd i’w weld yn Llangynwyd yn Ne Cymru, ond mewn mannau eraill mae’r traddodiad wedi’i ail-sefydlu ers sawl degawd. Peth byw sy’n cael ei adnewyddu o hyd ac o hyd yw traddodiad; fel arall mae’n dirywio i statws ail-greu hanesyddol. Mae ‘na lawer o amrywiadau ar draddodiad y Fari Lwyd ar draws Cymru. Yng ngogledd ddwyrain Cymru mae’r Fari yn rhan o ddathliadau Cadi Ha Calan Mai. Mae gan (neu’n hytrach, roedd gan) Sir Fôn a Gwyr eu harferion Mari penodol eu hunain. Mae partïon Mari yn weithredol ledled Cymru, ac mae rhai newydd yn cael eu sefydlu yn flynyddol. Mae hynodrwydd lleol yn beth braf, felly dewch o hyd i’ch traddodiad lleol, yn fyw neu’n farw, a’i addasu er mwyn rhoi bywyd newydd iddo.

O’r holl arferion ceffyl a welir yn Ynysoedd Prydain, dim ond y Fari Lwyd sy’n rhoi amlygrwydd i gystadleuaeth farddoni. Efallai bod y Pwnco yn her mewn rhai ardaloedd o Gymru yr 21ain ganrif nawr bod beirdd gwlad yn brinnach, ond p’un ai eu bod wedi’u dysgu neu’n fyrfyfr, mae’r geiriau yn a’r gystadleuaeth yn rhoi’r cyfle i gynnwys cyfeiriadau lleol ac amserol, ac yn arddangos cariad traddodiadol y Cymry at iaith a barddoniaeth.

Yn draddodiadol, ‘rydym yn adnabod y Fari Lwyd fel penglog ceffyl ar bolyn, wedi’i addurno gyda rhubannau a chlychau, ac yn ‘gwisgo’ gwaelodion poteli yn lle’r llygaid. Yn gynyddol y dyddiau hyn, mae Maris newydd yn adlewyrchu dychymyg eu partïon. Mae ‘Mari Troellog’, o Gaerfyrddin, wedi’i addurno â throellau ac mae ganddo oleuadau LED ar gyfer y llygaid. Mae eraill wedi’i chwistrell-baentio’n lliw aur neu wedi’i addurno gyda blodau, ac yng nghymunedau ac ysgolion ar draws y wlad, ‘rydym wedi gweld y Fari Lwyd pac-fflat yn codi helynt mawr!

Teithiodd gweithwyr Trac Cymru o gwmpas y wlad yn darparu gweithdai Mari Lwyd mewn ysgolion a gyda grwpiau cymunedol, i ddod â chymunedau at eu gilydd i ddysgu am y traddodiad unigryw Cymreig hwn. Cafodd pobl y cyfle i ddysgu am y cefndir, dysgu’r caneuon sy’n gysylltiedig â’r traddodiad ac am y gystadleuaeth ‘bwnco’, gyda rhai o’r cyfranogwyr yn mynd ati i ysgrifennu eu pennillion eu hun. Pan nad oedd hi’n bosibl ffeindio Mari Lwyd go-iawn, mae’r Fari Lwyd pac-fflat, a ddyluniwyd gan David Pitt, wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol! Mae llawer o grwpiau ysgol a fydd yn defnyddio’r pecyn fel adnodd yn y dyfodol.

Gweithiodd trac gyda mwy na 400 o blant mewn ysgolion yn Yr Wyddgrug, Dolgellau, Tywyn, Llanelli, Abertawe, Corris a Nefyn, a roedd y cyfan yn bosibl trwy gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru. Isod, gallwch wylio fideo fer am y prosiect.

Fel rhan o’r prosiect cyhoeddwyd llyfryn a ddarluniwyd yn hyfryd. Yn y llyfryn, mae’r hanesydd Rhiannon Ifans yn esbonio hanes yr arfer ac yn cynnig fersiynau o nifer o ganeuon y Fari, ynghyd â chyfieithiadau o’r pennillion. Mae llawer Mari Lwyd yn ymddangos yn y llyfryn, ac hoffwn ni ddiolch i bawb a anfonodd luniau o’u Marïau Llwydion hwythau atom ni. Cewch prynu eich copi ar waelod y dudalen!

Mae’r pecyn ar werth gyda’r llyfr neu hebddo, ac mae wedi’i wneud o gardfwrdd wal ddwbl trwm a fydd, ar ôl i gryfhau â phapier maché a farnais, yn wydn ac yn diddos.
E-bostiwch trac@trac-cymru.org am fanylion prynu – siopa ar-lein yn dod yn fuan!

Isod fe welwch  ffilm am brosiect cymunedol Mari Lwyd Trac Cymru, yn ogystal â golwg ar y ffynonellau ar gyfer yr arferiad a rhestr chwarae o enghreifftiau o o amgylch Cymru, a restr chwarae o dri fideo i ddangos i chi sut i wneud y Fari Lwyd fflat-pac.

Prynwch y Bwndel Mawr = £49.99 + P&C, yn cynnwys pecyn Mari fawr, llyfr Mari a CD am ddim.

 

 

 

Prynwch y Bwndel Bach = £9.99 + P&C, yn cynnwys llyfr Mari a phecyn bach Mari am ddim.

 

E-bostiwch trac@trac-cymru.org i ofyn am bryniant.