Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau dod ar daith gyda ni i weld rhywfaint o waith elusennol Trac Cymru dros y 21+1 mlynedd diwethaf, a bod y detholiad bychan hwn o straeon a ddewiswyd gennym wedi helpu i dynnu sylw at rai o’r ffyrdd gwahanol mae ein traddodiadau cerddorol yn parhau yn berthnasol i Gymru heddiw.

Bu i ni edrych ar sut mae Trac Cymru wedi gweithio i sicrhau fod y dreftadaeth bwerus hon yn parhau i gael ei throsglwyddo ymlaen trwy’r traddodiadau gwerin – trwy ein cefnogaeth i’r trysorau cenedlaethol byw sy’n cynnal ein traddodiad, trwy ein prosiectau cymunedol arloesol, a thrwy ein cefnogaeth i’r Clybiau Alawon lleol bywiog. Bu i ni adrodd stori Trac Cymru wrth i’r elusen barhau i drosglwyddo’r wybodaeth hanfodol hon a sgiliau creadigol i’r cenedlaethau nesaf – o’u profiadau cyntaf gyda cherddoriaeth fel plant bach, i addysg drylwyr i gerddorion brwd yn eu harddegau, ac ymlaen wedyn i gynnig datblygiad galwedigaethol tuag at yrfaoedd proffesiynol.

Rydym wedi clywed am y sêr newydd sy’n blodeuo yn y genhedlaeth ddiweddaraf o ddisgyblion Trac Cymru wrth iddynt ddysgu eu crefft gan artistiaid adnabyddus sydd eisoes yn disgleirio yn y sîn gerddorol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae grym ein traddodiadau cerdd yn y modd y cânt eu trosglwyddo yn uniongyrchol rhwng pobl, a’n gwaith ni fel elusen genedlaethol yw parhau i roi bywyd i’r broses hon, gan feithrin diddordeb ar lefel leol, yn ein cymunedau, yn ogystal â datblygu cynulleidfaoedd newydd ledled y byd i helpu cerddoriaeth Werin Gymreig i oroesi a ffynnu.

Ein huchelgais ar gyfer y 21+1 mlynedd nesaf yw sicrhau ymdeimlad mai cerddoriaeth ein gwlad yw calon gynnes y genedl, ac er mwyn gwneud hynny, rydym yn awyddus i wella cynhwysiant ac amrywiaeth o fewn y sector gerddoriaeth draddodiadol. Mae’n fwriad gennym arwain prosiectau newydd a mentrus sy’n defnyddio’r cydlyniad cymunedol sy’n nodwedd gynhenid ac sydd wrth galon ein traddodiadau gwerin – yn enwedig yn y modd unigryw y caiff gwybodaeth dorfol a chwedleua mynegiannol eu trosglwyddo rhwng cenedlaethau.

Wrth i’r byd cerddorol ddod allan o’r cysgod a fwriwyd gan y pandemig coronafeirws dros y ddwy flynedd flaenorol, bu Trac Cymru wrthi’n cynllunio datblygiad rhaglen newydd estynedig o ymgysylltu diwylliannol yr hoffem ei rannu gyda rhagor o gymunedau ledled Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod. Byddwn yn parhau i feithrin rhagoriaeth yn y celfyddydau cenedlaethol ac ochr yn ochr â hyn, dymunwn gael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd cyfranogwyr unigol ar lefel leol.

Bydd eich cefnogaeth chi yn amhrisiadwy wrth ein cynorthwyo i wireddu’r uchelgais hon. Ystyriwch gyfrannu heddiw, gan fuddsoddi mewn datblygu gwaddol celfyddydol er llesiant y genedl yn y dyfodol.

Skip to content