Un o nodau Trac Cymru yw sicrhau fod cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn goroesi ac yn ffynnu yn y blynyddoedd sydd i ddod, a hynny fel rhan fyw o hunaniaeth y genedl, gan gael bywyd newydd yn nwylo pob cenhedlaeth.

Rydym yn dod i derfyn ein taith drwy straeon o 21+1 mlynedd o waith yr elusen wrth roi sylw i un o sêr disglair y genhedlaeth ddiweddaraf o gerddorion gwerin newydd sydd bellach yn dechrau graddio o Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru i yrfaoedd proffesiynol cyffrous – Cerys Hafana, sy’n swyno cynulleidfaoedd newydd yn barod gyda’i cherddoriaeth arbrofol ar y delyn deires eiconig.

Mae Cerys wedi teithio trwy raglen ddatblygu Trac Cymru dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, gan gynnwys mynychu ein cyrsiau preswyl Gwerin Gwallgo cyn cael ei dewis fel un o aelodau’r Ensemble Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol, sydd wedi derbyn clod a bri dan yr enw Avanc. Rhan bwysig o strategaeth Trac Cymru er mwyn cynnal sector cerddoriaeth werin y genedl fu cynnig cefnogaeth alwedigaethol drylwyr i rai o’n hartistiaid mwyaf talentog, ac mae Cerys yn enghraifft wych arall o’r modd yr ydym yn helpu i feithrin angerdd a sgiliau cerddorion ifanc, ac yna cynnig cyfleoedd iddynt ddysgu sgiliau ymarferol sy’n hanfodol iddynt ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddorol yn y dyfodol.

Mewn cyfweliad ecsgliwsif yn y fideo isod, mae Cerys yn trafod ei thaith gyda’r delyn deires, pam fod yr offeryn yn rhan mor arwyddocaol o’n diwylliant, a sut y mae wedi rhoi ei llais a’i harddull unigryw ei hun iddi. Mae’n sôn am y gefnogaeth a dderbyniodd gan Trac Cymru, a’r ffrindiau am oes y daeth i’w hadnabod trwy ei gwaith gydag Avanc. Mae Cerys hefyd yn angerddol dros bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae’n trafod ei hargyhoeddiad y dylai cerddoriaeth werin gynrychioli pobl Cymru fel y maent heddiw.

Oherwydd y coronafeirws, bu’n rhaid gohirio ein cynlluniau ar gyfer dathlu’r garreg filltir bwysig o gyrraedd pen-blwydd Trac Cymru yn 21 oed yn 2021, ond rydym wedi parhau gyda’n nod o gefnogi datblygiad ein cerddoriaeth genedlaethol anhygoel er budd pawb. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.

Skip to content