Ein man cychwyn

Mae Trac Cymru yn darparu ysbrydoliaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i unigolion a phrosiectau er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. ‘Rydym yn rhoi’r hyder a chefnogaeth i artistiaid gwerin arddangos eu talentau rhyfeddol i’r byd mawr crwn.

Ein Cenhadaeth yw sicrhau diwylliant llewyrchus o fewn Cymru gyda’i wreiddiau yn y traddodiad gwerin. Gan weithio gyda cherddorion, dawnswyr a chantorion o bob oed a lefel, byddwn yn sicrhau newid cadarnhaol i unigolion, cymunedau a’n treftadaeth ddiwylliannol trwy draddodiad byw y celfyddydau gwerin.

Beth sydd ei angen arnom ni

‘Rydym yn chwilio am aelod tîm Cymraeg brwdfrydig sy’n meddu ar sgiliau rheoli a gweinyddu, ynghyd ag agwedd hyblyg i chwarae rôl hanfodol o fynd â’r elusen yn ei blaen i’w chyfnod nesaf. Mae Trac Cymru yn sefydliad dwyieithog ac mae agweddau hanfodol y rôl yn ymwneud â chyfathrebu yn Gymraeg.

Yn y lle cyntaf bydd y swydd am dri diwrnod yr wythnos am flwyddyn, ac yn cychwyn ar Fawrth 1 2023. Gan ddibynnu ar ganlyniad Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru, dylai’r rôl fod yn un barhaol ac, yn ddelfrydol, dylai ehangu.

£26,000 pa yw’r cyflog, pro rata (h.y. £15600 pa.)

Mae Trac Cymru yn ymgeisio at fwy o amrywiaeth ac felly’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, ac rydym hefyd yn croesawu trafodaeth am addasiadau rhesymol ar bob cam o’r broses recriwtio.

Mae’r swydd yn cynnwys 25 diwrnod y flwyddyn o wyliau (pro rata) gyda thâl ynghyd â gwyliau cyhoeddus pan fyddant yn cyd-daro â diwrnodau gwaith rheolaidd, mynediad at bensiwn y cwmni a lwfans tuag at gynnal eich swyddfa yn y cartref.

Yr hyn y fyddwch yn gwneud

Gyda chefnogaeth y Cyfarwyddydd a gweddill y tîm, byddwch yn:

  • Goruchwylio cyllidebau, adroddiadau ariannol a chyllid bob dydd yr elusen
  • Rheoli proses Cynllunio Busnes y sefydliad
  • Sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a gofynion cyllidwyr
  • Tracio cynnydd yn erbyn targedau ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd a chyllidwyr
  • Cydweithio ar brosiectau – creu, cyllidebu, rheoli a chefnogi – gan gynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda chyllidwyr a chyd-weithwyr ledled Cymru
  • Ymateb i ymholiadau am wybodaeth ynghylch byd gwerin Cymru
  • Cefnogi Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gyda gwybodaeth ac adnoddau
  • Rheoli pob agwedd ar werthu nwyddau Trac Cymru – citiau Mari Lwyd, llyfrau, CDau
  • Cydweithio’n agos gyda’r Tîm Rheoli ymhob agwedd o’r gwaith yn ȏl y gofyn, gan gynnwys gwaith Datblygu, Gwerthuso, Marchnata a Chyllid.
  • Rheoli eich gwaith gweinyddol beunyddiol gan gynnwys eich dyddiadur a’ch gwaith rheoli data, ymgysylltu â phersonél allweddol a chynnal cyfarfodydd trwy gyfrwng Skype neu Zoom fel bo’r angen.
  • Ymwneud ag hyfforddiant a mentora
  • Mynychu unrhyw ddigwyddiadau gan gynnwys, o bosib, digwyddiadau allan o oriau rheolaidd (fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl ayyb), er mwyn cynrychioli Trac Cymru fel bo’r angen.

Ai chi yw hwn/hon?

‘Rydych chi’n berson sy’n:

  • teimlo’n gyffrous wrth feddwl am weithio i fudiad bach, deinamig, lle y gallwch wir wneud gwahaniaeth.
  • hoffi trafod manylion ac yn ddibynadwy
  • yn meddu ar sgiliau cadarn mewn rheoli a gweinyddu
  • am fod yn rhan o rywbeth pwysig ‘rydych wir yn credu ynddo
  • ddi-droi’n-ȏl. Os nad ydych yn llwyddo ar y cychwyn, ‘rydych yn dyfalbarhau tan eich bod yn gwneud, ac yn dysgu yr hyn sydd ei angen i lwyddo i wneud hynny ddigwydd. Mae gennych y gallu i weithio pethau allan, a gweld pendraw’r broblem.
  • gallu rheoli eich amser yn dda. ‘Rydym yn dîm bach ac yn croesawu menter, ond hefyd yn credu mewn ffiniau ac yn croesawu’ch gallu i reoli’ch ffiniau eich hunain.

Profiad a chymwysterau hanfodol

  • Profiad o, neu gymwysterau mewn, rheoli/gweinyddu
  • Profiad o reoli ariannol a chyllido
  • Safon ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Talu sylw at fanylion
  • Y gallu i weithio’n hyblyg o gartref
  • Yn fodlon teithio o amgylch Cymru i gynrychioli Trac Cymru
  • Meddu ar fynediad at eich cludiant eich hun, ynghyd â thrwyddedd yrru lân, gyfredol.
  • Yn gyfarwydd â phecynnau swyddfa modern, gan gynnwys GDrive a MS Office
  • Bod â’r hawl i weithio yn y DU

Profiad bonws

Bod gennych ddiddordeb byw yn niwylliant gwerin Cymru a’r cyfraniadau y gall y celfyddydau a chreadigrwydd wneud at lesiant ac ansawdd bywyd.

Sut i wneud cais

Os taw hwn yw’r cyfle ‘rydych wedi bod yn chwilio amdano, cysylltwch â ni ar trac@trac-cymru.org i gael fanylion llawn y swydd neu os am sgwrs anffurfiol am y rȏl hon, cysylltwch â Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, ar cyfarwyddydd@trac-cymru.org

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod drwy ebost fel bod modd trefnu cyfweliad. Y dyddiad terfyn am dderbyn ceisiadau am y swydd yw hanner nos ar 5 Ionawr 2023a byddwn yn cydnabod derbyn pob cais. Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu hysbysu trwy e-bost i drefnu cyfweliad, a gynhelir yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Ionawr 2023. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael cynnig dewis o gyfweliad wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd neu gyfweliad ar-lein. Byddwn yn talu costau teithio rhesymol i fynychu cyfweliad yn bersonol.

Bydd y swydd yn cychwyn ar 1 Fawrth 2023.

Edrychwn ymlaen at glywed oddiwrthoch chi.

Skip to content