Un o nodau Trac Cymru yw sicrhau ymdeimlad fod ein traddodiadau gwerin yn curo fel calon gynnes y genedl, ac mae hyn yn golygu ein bod yn awyddus i gynnwys pawb wrth greu a dysgu cerddoriaeth, ni waeth beth fou hableddau neu anableddau unigol.

Yn 2019, roeddem wrth ein boddau i gefnogir cerddor ifanc Ida Beckmann, sydd â Syndrom Down, wrth iddi ymuno yng nghwrs preswyl Gwerin Iau yng Nghanolfan yr Urdd yng Nglan-llyn. Esboniodd mam Ida, Liane Beckmann, mai ei merch, syn glarinetwraig frwd, oedd yr un a ofynnodd iw theulu ddod o hyd i glwb lle gallai chwarae cerddoriaeth. Cwrs Gwerin Iau oedd yr unig ddosbarth ledled Cymru oedd ar gael iddynt:

Bu cerddoriaeth yn rhan enfawr o fywyd fy merch erioed. Mae gan fy nheulu ddiddordeb cyffredinol mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Yn ei symlrwydd y mae harddwch cerddoriaeth. Gall gysylltun awtomatig â’r ymennydd. Gall cerddoriaeth fod yn rymus ac yn hynod ddefnyddiol i bob oedolyn a phlentyn fel ei gilydd. Roedd Gwerin Iau yn anhygoel ac yn brofiad gwych i fy mhlentyn. Roedd Ida wrth ei bodd.

Dwin meddwl fod cerddoriaeth o gymorth wrth ailddeffro atgofion, ac y gall o ganlyniad gynyddur mwynhad y mae pobl gyda chof tymor byr yn ei gael o fywyd. Mae cerddoriaeth mor bwysig i fy merch ac i lawer o bobl sydd â Syndrom Down –  maen hysbys iawn fod dysgu i chwarae offeryn yn dda i lesiant ac iechyd meddwl person, yn ogystal â gwaith tîm, hunanddisgyblaeth, a hyd yn oed sgiliau mathemategol. Mae creu cerddoriaeth yn un o fendithion bywyd.”

Un o drefnwyr cwrs Gwerin Iau oedd Elisa Morris, sydd â pherthynas hirdymor â Trac Cymru gan gynnwys bod yn aelod o Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Mae Elisan dwyn i gof iddi helpu i sicrhau fod y llety ar sesiynau yn gwbl hygyrch ac wediu teilwra ar gyfer anghenion unigol Ida fel ei bod yn gallu ymlacio a rhoi cynnig ar yr holl sesiynau gwahanol oedd ar gael iddi: Roedd hyn yn gyfle i Ida roi tro ar arddull gerddorol newydd, gan ei bod eisoes yn chwarae mewn rhai ffurfiau lled-glasurol ar y clarinét ac yn awyddus i gael profiad cerddorol gwahanol, yn ogystal â’r profiad preswyl. Roedd y gymysgedd honno, ynghyd â chael cymryd rhan yn y clocsio hefyd, yn fath gwahanol o symbyliad gyda phethau newydd iddi roi cynnig arnynt.”

Mae Ida hithau yn siarad yn gynnes iawn am y profiad. Yn ei geiriau ei hun: Dwin gallu cofio mynd yno. Ron in ei hoffin fawr. Ia, plîs, dwi wrth fy modd yn mynd yno. Dwin hoffi chwarae fy nghlarinét. Roedd clocsio gydar tiwtor yn llawer o hwyl. Dwin cofio lliwr clocsiau.”

Ida Beckmann (ail or chwith) ar gwrs Gwerin Iau yn 2019

Teimla Elisa mai un or pethau oedd yn rhoir mwyaf o foddhad am y profiad oedd gweld mor rhwydd y daeth Ida i deimlon gartrefol ymhlith yr holl gerddorion eraill: Roedd hi mor lysh gweld yr aelodau eraill yn croesawu Ida trwy ddod yn ffrindiau – dwin meddwl fod hynnyn rhywbeth mawr, am fod pobl yn gwneud yr ymdrech o ddod ati i siarad a gwneud iddi deimlon rhan or digwyddiad.”

Mae Ida ei hun yn cytuno â hyn, fel y soniodd ei mam wrthym: Mae Idan dweud mai ei hatgof gorau yw merch yn gofyn iddi, Ga i eistedd wrth dy ymyl di?, yn y bore wrth y bwrdd brecwast. Roedd Ida ar ben ei digon! Dynar tro cyntaf i rywun or un oed ofyn iddin uniongyrchol.”

Aeth yr integreiddio hwn yn ei flaen ir perfformiad ar ddiwedd y rhaglen gan y cerddorion ifanc oedd yn cymryd rhan. Fel noda Elisa Morris: Roedd ei chyfoedion mor falch oi chael yn y sioe derfynol am iddi fod yn rhan mor greiddiol or cwrs. Mae gallu dangos fod cerddoriaeth werin wir yn hygyrch, ac y gall fod yn rhywbeth i bob oed a galluedd, a chynnwys niwroamrywiaeth hefyd, yn gwbl allweddol.”

Gan neidio ymlaen i 2022, dros yr haf eleni roedd Trac Cymru yn falch iawn o feithrin cyfnewidfa gerddorol niwroamrywiol arall, pan gymrodd nifer o aelodau Avanc y cyfle i fynd i chwarae cerddoriaeth gyda Canfod y Gân, grŵp i gerddorion gydag a heb anableddau dysgu a sefydlwyd gan Ganolfan Gerdd William Mathias mewn partneriaeth â thîm Anableddau Dysgu Gwynedd ac a ariennir trwy gronfa gerdd Ysbryd 2012. Dywedodd Einir Llwyd Roberts, cyfarwyddwr y ganolfan gerdd: Fe wnaeth cyfranogwyr Canfod y Gân wir fwynhau ymweliad gan gerddorion Avanc i un ou sesiynau dros yr haf. Roedd yn gyfle gwych ir cerddorion ddysgu a rhannu gydai gilydd. Cyflwynwyd aelodau Canfod y Gân i alawon gwerin newydd gan Avanc, a chyflwynwyd Avanc i rai o ganeuon gwreiddiol Canfod y Gân. Roedd llond lle o fyrfyfyrio a gwefr greadigol go-iawn yn yr ystafell.”

Aelodau Avanc a Canfod y Gân yn ymuno â’i gilydd i gydweithion gerddorol yn ystod haf 2022

Roedd Elisa Morris yn un o gerddorion Avanc fun cymryd rhan yn y cydweithio, a bun myfyrio ar y rhinweddau sydd gan gerddoriaeth werin wrth feddwl am gefnogi cynhwysiant mewn creu cerddoriaeth: Ym myd cerddoriaeth werin mae chwarae or glust a cheisio deall y gerddoriaeth mewn modd mwy agored a hygyrch yn golygu nad yw mor gaeth fel ffurf gelfyddydol, ac mae yna lawer iawn yn fwy o arbrofi ac addasu yn ôl galluoedd y sawl syn chwarae hefyd. Yn y gorffennol, fyddai cerddoriaeth ddim yn bodolin ysgrifenedig yn yr un ffordd; roedd creu cerddoriaeth yn beth mwy cymdeithasol o lawer, rhywbeth syn allweddol iw drosglwyddo yn fy marn i, fel nad ywn cael ei droi yn rhywbeth sydd ar gael i grŵp penodol o bobl yn unig.

Gyda Canfod y Gân roeddech chin gallu gweld mor bwysig oedd hynny ir cyfranogwyr oedd yn dod o bell ac agos, gan gynnwys pobl o ardaloedd gwledig. Yr elfen gymdeithasol oedd gryfaf gan eu bod yn nabod y bobl oedd yn creu cerddoriaeth gyda nhwn dda, ac roedd hin hawdd dweud eu bod nhwn cael cymaint o hwyl dim ond wrth ddod ynghyd a chwarae. Hyd yn oed i ni yn Avanc, mae pawb yn teimlo fod yr elfen gymdeithasol yn rhan mor bwysig o greu cerddoriaeth – ar ymdeimlad o ymddiriedaeth fel grŵp hefyd.

Fen gwnaeth ni hefyd yn fwy ymwybodol or angen i wneud mwy i sicrhau fod cerddoriaeth yn fwy hygyrch. Does ond angen edrych ar bwy sydd allan ar y llwyfannau – hyd yn oed o ran y rhaniad rhywedd, hil a nodweddion eraill – i wybod fod llawer iawn mwy sydd angen ei wneud i sicrhau fod creu cerddoriaeth, ar ffordd y mae cynulleidfaoedd yn ei dderbyn, yn fwy hygyrch. Os mai cerddoriaeth y bobl yw cerddoriaeth werin, yna maen rhaid i hynny gynnwys pawb – rhaid i ni feddwl am bwy rydym ni am iddynt berchnogir gerddoriaeth hon a chael budd or llesiant, yr ymdeimlad o gysywllt â’n hanes, ar elfennau hynny o greu cerddoriaeth sydd mor allweddol eu cymryd or gorffennol au rhoi ir dyfodol.”

Bu Trac Cymru yn cefnogi pobl i ddarganfod cerddoriaeth werin Gymreig ers 21+1 o flynyddoedd, ac mae’n fwriad gennym arwain prosiectau cynhwysiant newydd mentrus i helpu gyda chynyddu amrywiaeth cyfranogwyr yn y sector gerddoriaeth yng Nghymru. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.

Skip to content