Fe wnaethom adael Cymru ar y 25ain o Ionawr i gymryd rhan yn Showcase Scotland 2023 fel rhan o’r Arddangosfa Spotlight Cymru ac fe ddaethon ni â Cerys Hafana, Gwilym Bowen Rhys a Vri i arddangos i drefnwyr gŵyl, asiantau, a hyrwyddwyr o 28 gwlad.

Dros ddwy awr ddydd Iau diwethaf fe chwythodd Aneirin Jones, Cerys Hafana, Gwen Mairi, Gwilym Bowen Rhys, Jordan Price Williams, Patrick Rimes ac Osian Gruffydd y cobwebs oddi wrth sut mae eraill yn ein gweld, gyda pherfformiadau a oedd yn creu syndod yn Lleoliad Drygate Glasgow.

Ysgrifennodd Gary RAYMOND yn y Western Mail: “Some of the most exciting young artists … They showed that Welsh folk music is in fine fettle, that it is urgent, vital and raw, and, most importantly, its future is very much in safe hands”

Mae pob un o’r artistiaid hyn wedi bod trwy brosiectau datblygu Trac Cymru, gan ddechrau gyda’r Arbrawf Mawr, 10 Mewn Bws, Dros y Ffin, Gwerin Gwallgo ac AVANC.

Er bod hyn yn rhan o bartneriaeth sy’n esblygu, gan ddod â Trac Cymru ynghyd â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Mwldan, Focus Wales, Tŷ Cerdd, Llywodraeth Cymru, Galeri, Celfyddydau Anabledd Cymru ac eraill, mae hefyd yn dibynnu ar flynyddoedd hir o fynychu cynadleddau a rhoi gwybod i bobl am ein deilen fechan ar goeden profiad dynol.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r bartneriaeth hon wedi creu rhaglen fentora i gerddorion ar y Rhestr Hir, wedi ymgysylltu chynrychiolaeth broffesiynol i’r bandiau, wedi helpu i greu pecynnau cymorth digidol rhag ofn i COVID gau’r digwyddiad wyneb yn wyneb, a datblygu rhwydwaith byd-eang o hyrwyddwyr cefnogol, busnesau a gweithwyr proffesiynol cerddoriaeth ar draws y byd!

Rydym yn hynod o falch o’n rhan i ddod â lleisiau Cymru o flaen y byd, ac yn dathlu gyda’n partneriaid am lwyddiant yr uchelgais yma i weld ein hartistiaid a’n busnesau cerddoriaeth yn gwneud y byd yn lle gwell.

Skip to content