Ein man cychwyn
Mae Trac Cymru yn darparu ysbrydoliaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i unigolion a phrosiectau er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. ‘Rydym yn rhoi’r hyder a chefnogaeth i artistiaid gwerin arddangos eu talentau rhyfeddol i’r byd mawr crwn.
Ein Cenhadaeth yw sicrhau diwylliant llewyrchus o fewn Cymru gyda’i wreiddiau yn y traddodiad gwerin. Gan weithio gyda cherddorion, dawnswyr a chantorion o bob oed a lefel, byddwn yn sicrhau newid cadarnhaol i unigolion, cymunedau a’n treftadaeth ddiwylliannol trwy draddodiad byw y celfyddydau gwerin.
Beth sydd ei angen arnom ni
‘Rydym yn chwilio am aelod tîm Cymraeg brwdfrydig sy’n meddu ar sgiliau rheoli a gweinyddu, ynghyd ag agwedd hyblyg i chwarae rôl hanfodol o fynd â’r elusen yn ei blaen i’w chyfnod nesaf. Mae Trac Cymru yn sefydliad dwyieithog ac mae agweddau hanfodol y rôl yn ymwneud â chyfathrebu yn Gymraeg.
Yn y lle cyntaf bydd y swydd am dri diwrnod yr wythnos am flwyddyn, ac yn cychwyn ar Fawrth 1 2023. Gan ddibynnu ar ganlyniad Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru, dylai’r rôl fod yn un barhaol ac, yn ddelfrydol, dylai ehangu.
£26,000 pa yw’r cyflog, pro rata (h.y. £15600 pa.)
Mae Trac Cymru yn ymgeisio at fwy o amrywiaeth ac felly’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, ac rydym hefyd yn croesawu trafodaeth am addasiadau rhesymol ar bob cam o’r broses recriwtio.
Mae’r swydd yn cynnwys 25 diwrnod y flwyddyn o wyliau (pro rata) gyda thâl ynghyd â gwyliau cyhoeddus pan fyddant yn cyd-daro â diwrnodau gwaith rheolaidd, mynediad at bensiwn y cwmni a lwfans tuag at gynnal eich swyddfa yn y cartref.
Yr hyn y fyddwch yn gwneud
Gyda chefnogaeth y Cyfarwyddydd a gweddill y tîm, byddwch yn:
- Goruchwylio cyllidebau, adroddiadau ariannol a chyllid bob dydd yr elusen
- Rheoli proses Cynllunio Busnes y sefydliad
- Sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a gofynion cyllidwyr
- Tracio cynnydd yn erbyn targedau ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd a chyllidwyr
- Cydweithio ar brosiectau – creu, cyllidebu, rheoli a chefnogi – gan gynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda chyllidwyr a chyd-weithwyr ledled Cymru
- Ymateb i ymholiadau am wybodaeth ynghylch byd gwerin Cymru
- Cefnogi Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gyda gwybodaeth ac adnoddau
- Rheoli pob agwedd ar werthu nwyddau Trac Cymru – citiau Mari Lwyd, llyfrau, CDau
- Cydweithio’n agos gyda’r Tîm Rheoli ymhob agwedd o’r gwaith yn ȏl y gofyn, gan gynnwys gwaith Datblygu, Gwerthuso, Marchnata a Chyllid.
- Rheoli eich gwaith gweinyddol beunyddiol gan gynnwys eich dyddiadur a’ch gwaith rheoli data, ymgysylltu â phersonél allweddol a chynnal cyfarfodydd trwy gyfrwng Skype neu Zoom fel bo’r angen.
- Ymwneud ag hyfforddiant a mentora
- Mynychu unrhyw ddigwyddiadau gan gynnwys, o bosib, digwyddiadau allan o oriau rheolaidd (fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl ayyb), er mwyn cynrychioli Trac Cymru fel bo’r angen.
Ai chi yw hwn/hon?
‘Rydych chi’n berson sy’n:
- teimlo’n gyffrous wrth feddwl am weithio i fudiad bach, deinamig, lle y gallwch wir wneud gwahaniaeth.
- hoffi trafod manylion ac yn ddibynadwy
- yn meddu ar sgiliau cadarn mewn rheoli a gweinyddu
- am fod yn rhan o rywbeth pwysig ‘rydych wir yn credu ynddo
- ddi-droi’n-ȏl. Os nad ydych yn llwyddo ar y cychwyn, ‘rydych yn dyfalbarhau tan eich bod yn gwneud, ac yn dysgu yr hyn sydd ei angen i lwyddo i wneud hynny ddigwydd. Mae gennych y gallu i weithio pethau allan, a gweld pendraw’r broblem.
- gallu rheoli eich amser yn dda. ‘Rydym yn dîm bach ac yn croesawu menter, ond hefyd yn credu mewn ffiniau ac yn croesawu’ch gallu i reoli’ch ffiniau eich hunain.
Profiad a chymwysterau hanfodol
- Profiad o, neu gymwysterau mewn, rheoli/gweinyddu
- Profiad o reoli ariannol a chyllido
- Safon ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Talu sylw at fanylion
- Y gallu i weithio’n hyblyg o gartref
- Yn fodlon teithio o amgylch Cymru i gynrychioli Trac Cymru
- Meddu ar fynediad at eich cludiant eich hun, ynghyd â thrwyddedd yrru lân, gyfredol.
- Yn gyfarwydd â phecynnau swyddfa modern, gan gynnwys GDrive a MS Office
- Bod â’r hawl i weithio yn y DU
Profiad bonws
Bod gennych ddiddordeb byw yn niwylliant gwerin Cymru a’r cyfraniadau y gall y celfyddydau a chreadigrwydd wneud at lesiant ac ansawdd bywyd.
Sut i wneud cais
Os taw hwn yw’r cyfle ‘rydych wedi bod yn chwilio amdano, cysylltwch â ni ar trac@trac-cymru.org i gael fanylion llawn y swydd neu os am sgwrs anffurfiol am y rȏl hon, cysylltwch â Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, ar cyfarwyddydd@trac-cymru.org
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod drwy ebost fel bod modd trefnu cyfweliad. Y dyddiad terfyn am dderbyn ceisiadau am y swydd yw hanner nos ar 5 Ionawr 2023a byddwn yn cydnabod derbyn pob cais. Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu hysbysu trwy e-bost i drefnu cyfweliad, a gynhelir yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Ionawr 2023. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael cynnig dewis o gyfweliad wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd neu gyfweliad ar-lein. Byddwn yn talu costau teithio rhesymol i fynychu cyfweliad yn bersonol.
Bydd y swydd yn cychwyn ar 1 Fawrth 2023.
Edrychwn ymlaen at glywed oddiwrthoch chi.