Mae Trac Cymru yn angerddol am ddangos y rhinweddau arbennig sy’n meddu ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru i gefnogi cydlyniad cymunedol drwy drosglwyddo gwybodaeth a diwylliant drwy’r cenedlaethau. Mae ein cysylltiad hir ni â’r seren cerddoriaeth werin gyfoes, Bethan Rhiannon, yn enghraifft wych o sut rydyn ni’n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu brwdfrydedd a’u sgiliau ac yna rhoi cyfleoedd iddynt addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o blant.

Dechreuodd Bethan ei datblygiad cerddorol gyda Trac Cymru fel dawnswr clocsio yn ei harddegau a fynychodd wersyll gwerin yn Sweden nôl yn 2003 fel rhan o brosiect arbennig a drefnodd yr elusen ar ei chyfer hi a chriw o gerddorion benywaidd ifanc eraill, a ddaeth yn ddiweddarach yn fand o’r enw Degogenod. Yn y gwersyll tyfodd ei hangerdd am gerddoriaeth draddodiadol a hefyd lle cyfarfu â rhai o’i phartneriaid cerddoriaeth broffesiynol y dyfodol. Ers hynny mae Bethan wedi tyfu i fod yn artist mawr Cymreig mewn bandiau fel Calan, Pendevig, a NoGood Boyo, ac erbyn hyn mae hi hefyd yn dysgu pobl ifanc.

Fel y gwelwch yn y fideo isod, fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Bethan am sgwrs yn ‘Festival Interceltique de Lorient’ yn Llydaw, lle’r oedd NoGood Boyo yn chwarae ochr yn ochr â rhai o’r perfformwyr cerddoriaeth werin Gymraeg ifanc y mae Trac wedi bod yn cefnogi. Roedd yn siarad am ei brwdfrydedd i drosglwyddo sgiliau ac i ddathlu celfyddydau traddodiadol Cymreig, a soniodd am bwysigrwydd gwaith Trac Cymru o feithrin ei datblygiad ei hun.

Roedd hi’n ben-blwydd Trac Cymru 21 oed yn 2021 ond diolch i Coronavirus cafodd ein cynlluniau i ddathlu eu gohirio, fel oedd llawer eraill. Felly wrth i ni baratoi i lansio ein gweledigaeth newydd gyffrous i gefnogi mwy o bobl i ddatblygu eu cysylltiad arbennig eu hunain â’n cerddoriaeth genedlaethol, hoffem rannu ychydig o’n straeon llwyddiant o’r 21+1 mlynedd diwethaf. Gallwch helpu ni drwy rannu’r straeon yma gyda’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr, ac ymunwch â ni i bostio atgofion hapus eich hun am gerddoriaeth werin Gymreig ar eich cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TRAC21.

Mae Trac Cymru yn elusen sy’n dibynnu ar eich cefnogaeth i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac i helpu ni i ddal ati i wneud ein gwaith ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol y genedl. Plîs helpwch ni drwy wneud cyfraniad heddiw.

Skip to content