Roedd hi’n ben-blwydd Trac Cymru 21 oed yn 2021 ond diolch i Coronavirus cafodd ein cynlluniau i ddathlu eu gohirio, fel oedd llawer eraill. Ond er gwaethaf yr anawsterau rydyn ni i gyd wedi wynebu dros y dwy flynedd ddiwethaf, mae Trac wedi parhau i weithio ar ei cenhadaeth i wneud yn siŵr y gall ein traddodiadau cerddoriaeth genedlaethol parhau a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod. Felly wrth i ni baratoi i lansio ein gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer dyfodol y sefydliad, hoffen ni rhannu ychydig o straeon llwyddiant am yr hyn sydd wedi digwydd dros y 21+1 mlynedd diwethaf.

Dros y dwy fis nesaf byddwn yn arddangos y gwaith mae Trac wedi bod yn wneud i fagu cerddoriaeth werin ar draws y cenedlaethau, o’n cefnogaeth ni i’r pobl sy’n dal y traddodiadau, ein trysorau cenedlaethol byw sy’n gwarchod ein treftadaeth genedlaethol, drwodd i annog pobl ifanc i fod yn gyffrous yn eu profiadau cyntaf â’r traddodiadau y maent yn etifeddu. Y pobl ifanc rydyn ni’n helpu i ddatblygu i’r genhedlaeth nesaf o gerddorion proffesiynol, yn cario’r cyffro y gerddoriaeth ymlaen i gynulleidfaoedd newydd. 

Mae gennym straeon anhygoel i’w hadrodd am sut rydym wedi sicrhau bod rhai hen ganeuon yn cael amlygiad newydd; straeon am y Clybiau Tiwn rydym wedi helpu cychwyn; straeon am sut mae cymunedau wedi dod at ei gilydd; straeon am sut mae bywydau unigolion wedi cael eu newid drwy gynyddu sgiliau, hunan-barch, hyder, a lles. Mae’r rhain yn straeon ysbrydoledig am pam ei bod mor bwysig i basio’r dreftadaeth werthfawr hon o un genhedlaeth i’r llall.

Mae gan Trac Cymru gynlluniau cyffrous i annog llawer mwy o bobl i ddatblygu cysylltiad arbennig eu hunain i’n cerddoriaeth genedlaethol…Byddwn yn sicrhau bod ein celfyddydau traddodiadol yn gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl ifanc a theuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru, a byddwn yn parhau i gefnogi’r holl genedlaethau i elwa o’n diwylliant byw. Fel ein gweledigaeth hoffen weld gerddoriaeth draddodiadol yn graidd i fywyd gyfoes Cymru.

Ond allwn ni ddim gwneud y gwaith yma heb eich help – mae Trac Cymru yn elusen sy’n dibynnu ar eich cefnogaeth i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, a bydd eich rhoddion yn hanfodol i’n helpu ni i ddal ati i wneud ein gwaith ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol y genedl.

Plîs ystyriwch wneud rhodd heddiw.

Gall helpu ni hefyd drwy rannu ein holl straeon 21+1, ac ymunwch â ni drwy bostio ar gyfryngau cymdeithasol eich atgofion hapus eich hun am gerddoriaeth werin Cymru #TRAC21.

Gweler ychydig mwy o’n gwaith yn ein fideo ymgyrchu isod 👇

Trac Cymru 21+1

Skip to content