Mae Trac Cymru’n angerddol am y pŵer o fewn cerddoriaeth draddodiadol i gefnogi cydlyniad cymdeithasol ar draws y genedl ac rydym yn anelu i sicrhau bod y traddodiadau hyn yn cael eu teimlo yn graidd i fywyd cyfoes Cymru – dyma pam mae’n hanfodol trosglwyddo ein treftadaeth unigryw o un genhedlaeth i’r llall. Rhan bwysig o waith Trac yw rhannu’r wybodaeth a ddelir gan ein ceidwaid y traddodiad – y bobl sydd wedi cario’r gorffennol i’r presennol. 

Yn ôl yn 2013 daeth y gwneuthurwyr ffilmiau Gerard KilBride a Rhodri Smith atom gyda’r syniad o greu cyfres o fideos ysbrydoledig o dan faner ‘Tune Chain’, a chawsom arian gan CCC i droi’r syniad yn realiti. Mae’r fideos yn dilyn llwybr o gysylltiadau rhwng llawer o gerddorion sylweddol yn y sîn werin Gymreig. Dechreuodd y gyfres gyda’r ffidlwr a’r hanesydd adnabyddus Robert Evans, gyda’r aml-offerynwr Stephen Rees a’r ffliwtydd Ceri Rhys Matthews ymysg y cyfranwyr eraill. Ym mhob fideo, mae’r cerddor yn rhannu golwg bersonol fanwl ar eu cerddoriaeth a’i wreiddiau, yn cynnwys y portread hynod ddiddorol hwn o’r telynor triphlyg nodedig Robin Huw Bowen:

06 Tunechain : Clustfeiniau – Robin Huw Bowen

Gallwch wylio pob un o’r 9 fideo ‘Tune Chain’ , a chrewyd a chyd-gynhyrchwyd gan Gerard KilBride, ar wefan Trac Cymru.

Cafodd y ffilmiau dderbyniad mor dda fel y flwyddyn ganlynol crëodd a chyd-cynhyrchodd Gerard KilBride ‘Ffwrnes Gerdd’, mewn cydweithrediad â sianel deledu S4C – roedd y gyfres estynedig hon yn cynnwys 24 ffilm fer arall yn cynnwys cerddorion yn rhannu eu hangerdd cerddorol a straeon unigol. Mae’r fideos Ffwrnes Gerdd wedi’i chasglu at ei gilydd fel rhestr chwarae ar ein sianel YouTube ac maen nhw’n cynnwys arddangosiad o Stephen Rees, yn ogystal â rhai o brif geidwaid y traddodiad eraill fel Bernard KilBride, Bob Evans, Huw Roberts, Gareth Westacott a Mike Lease. Mae rhagor o wybodaeth ar Ffwrnes Gerdd yma.

Does dim byd tebyg i ddysgu gan gerddorion meistr ac mae nifer o drysorau cenedlaethol byw enwocaf y wlad wedi bod yn diwtoriaid rheolaidd o fewn rhaglen ddysgu Trac Cymru, gan gynnwys yn ein penwythnos i gerddorion gwerin o bob oed – ‘Big Experiment, Arbrawf Mawr’. Wrth gwrs, yn ystod cyfyngiadau’r pandemig daeth yn anodd darparu profiadau addysgol wyneb yn wyneb. Ond manteisiwyd ar y cyfle i ddatblygu ein cynnig ar-lein fel bod modd bellach i drosglwyddo llawer o adnoddau cerddoriaeth Cymraeg traddodiadol yn uniongyrchol o’r ceidwaid y traddodiad. Mae hyn yn cynnwys alawon, caneuon, a hyd yn oed dawnsfeydd, a gall ffeindio hyn drwy’r adran ‘adnoddau’ ar ein gwefan.

Roedd hi’n ben-blwydd Trac Cymru 21 oed yn 2021 ond diolch i Coronavirus cafodd ein cynlluniau i ddathlu eu gohirio, fel oedd llawer eraill. Felly wrth i ni baratoi i lansio ein gweledigaeth newydd gyffrous i gefnogi mwy o bobl i ddatblygu eu cysylltiad arbennig eu hunain â’n cerddoriaeth genedlaethol, hoffem rannu ychydig o’n straeon llwyddiant o’r 21+1 mlynedd diwethaf. Gallwch helpu ni drwy rannu’r straeon yma gyda’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr, ac ymunwch â ni i bostio atgofion hapus eich hun am gerddoriaeth werin Gymreig ar eich cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TRAC21.

Mae Trac Cymru yn elusen sy’n dibynnu ar eich cefnogaeth i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac i helpu ni i ddal ati i wneud ein gwaith ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol y genedl. Plîs helpwch ni drwy wneud cyfraniad heddiw.

Skip to content