Yn 2021, dechreuodd Trac Cymru, Tŷ Cerdd a FOCUS Wales bartneriaeth newydd, gan greu a darparu Rhaglen Datblygu Artistiaid gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod y rhaglen yw rhoi hwb i sector cerddoriaeth Cymru yn y genres cerddoriaeth werin, cerddoriaeth draddodiadol, cerddoriaeth y byd a cherddoriaeth sy’n seiliedig ar iaith, a hynny drwy roi cyfleoedd mentora a datblygu proffesiynol unigryw i artistiaid gan eu galluogi nhw i gyflawni eu potensial rhyngwladol.

Cafodd yr artistiaid sy’n cymryd rhan yn y rhaglen beilot hon eu dewis drwy alwad am artistiaid i berfformio yn nigwyddiad Showcase Scotland yng ngŵyl Celtic Connections 2022. I gyd, ymatebodd 42 o artistiaid cyffrous ac amrywiol i’r alwad, ac aeth panel ati i lunio rhestr fer o 15 artist. Tra mai 6 o artistiaid a gafodd eu dewis gan Donald Shaw (Cynhyrchydd Creadigol Celtic Connections) i berfformio yn y digwyddiad mawreddog, cafodd pob un o’r 15 artist a gyrhaeddodd y rhestr fer gyfle i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy gael lle ar y Rhaglen Datblygu Artistiaid.

Dyma’r restr carfan cyffrous!

Skip to content