Rydym wrth ein boddau y bydd Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru – Avanc yn perfformio gyda cherddorion ifanc o’r Alban Fèis Rois yn Glasgow yn y Celtic Connections 2022. Bydd y cydweithiad yn cael ei gynnal ar y 5ed o Chwefror am 1yp yn Neuadd Gyngerdd Frenhinol Glasgow, Strathclyde Suite.

Tocynnau a mwy o wybodaeth ar gael yma

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dod i fyny ar y 4ydd o Chwefror, i ddathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg ac mae’n annog defnyddio a dysgu Gymraeg. Os ydych am ddysgu cân werin draddodiadol Gymreig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, mae gennym gasgliad o fideos caneuon gwerin Cymraeg wedi’u canu gan Arfon Gwilym a all helpu i adeiladu eich repertoire.

Gwrandewch yma

Mwy o newyddion cyffrous Avanc yw bod nhw’n rhyddhau eu sengl newydd – “Cân yr Ysbrydion” ac mae’n dod allan i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar y 4ydd o Chwefror. Cadwch lygad allan ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Trac Cymru ac Avanc ar gyfer rhyddhad y fideo cerddoriaeth, mae’n mynd i fod yn un da.

Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn nathliadau Dydd Miwsig Cymru hefyd, beth am wrando ar ein rhestrau cerddoriaeth Gymraeg ar Spotify lle mae gennym restrau cerddoriaeth ar gyfer pob hwyliau.

Gwrandewch yma

 

 

Skip to content