Wrth i ni ddynesu at ddathlu ein pen-blwydd diweddar yn un ar hugain oed, rydym yn falch o weld effaith ein gwaith ar y sin gerddoriaeth Gymreig ac ar fywydau cymaint o bobl sydd wedi mynychu ein cyrsiau a’n digwyddiadau. Rydym yn estyn allan i recriwtio Ymddiriedolwyr newydd fydd yn arwain yr elusen i ddyfodol cryf a llawn dychymyg. Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr profiadol a rhai sy’n newydd i’r gwaith fel ei gilydd.

Oherwydd ymddeoliadau diweddar o’r Bwrdd rydym yn arbennig o awyddus ar hyn o bryd i recriwtio siaradwyr Cymraeg. Mae gan yr elusen hon bolisi dwyieithrwydd ac mae’r Bwrdd yn cynnwys siaradwyr Cymraeg, dysgwyr, ac aelodau di-Gymraeg.

Hefyd, mae swydd wag yn ddiweddar ar y Bwrdd ar gyfer arbenigwr gyda phrofiad o faterion AD, wrth i Trac Cymru gychwyn ar gyfnod cyffrous o drawsnewid ac ehangu.

Rydym yn frwdfrydig ynghylch cyrraedd cynulleidfaoedd a chyfranogwyr newydd, ac felly byddem yn croesawu rhwydweithwyr brwd sydd â chysylltiadau â chymunedau allai gael budd o’r hyn sydd gennym i’w gynnig.

Fel sefydliad, rydym yn gwybod fod angen i ni wella ein hamrywiaeth er mwyn adlewyrchu Cymru gyfan yn well; felly rydym hefyd yn awyddus i recriwtio mwy o ymddiriedolwyr ifanc, ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, a chan bobl sydd ag anableddau.

Sut i wneud cais
Lawrlwythwch copi o’n Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr i gael gwybod rhagor ynghylch a allai hwn fod yn gyfle i chi. Wedyn, os hoffech chi wneud cais, cysylltwch â ni ar trac@trac-cymru.org i gael ffurflen gais syml lle gallwch ddweud ychydig wrthym amdanoch chi eich hun.

Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr Trac Cymru 2022

Skip to content