Roedd y prosiect Kann an Tan gan Tafwyl, Trac Cymru a’r Cyngor Prydeinig yn cyfuno cerddorion o Gymru a Llydaw i baratoi set i lwyfan Tafwyl 2022. Roedd y set yn un arbennig.
Roedd y prosiect yn dod â chwech artist ynghyd – tri o Gymru a thri o Lydaw i greu cerddoriaeth newydd gyda’i gilydd fel partneriaid. Yr artistiaid oedd Gwilym Bowen Rhys a Nolwenn Korbell, Cerys Hafana a Léa, a Sam Humphreys a Krismenn. Roedd y prosiect yn cael ei hwyluso gan y cerddor Lleuwen Steffan – sy’n dod o Gymru ac yn byw yn Llydaw.
Bwriad y prosiect, a ariannwyd gan Gyngor Prydeinig Cymru, oedd rhoi cyfle i’r artistiaid allu gweithio gyda artist o wlad gwahanol sydd yn gweithio trwy gyfrwng iaith leafrifol. Treuliodd yr artistiaid dridiau cyn Tafwyl gyda’i gilydd yn stiwdio Musicbox yng Nghaerdydd – cyn perfformio yn fyw gyda’i gilydd ar lwyfan Y Sgubor yn Tafwyl.
Cymerwch olwg ar glipiau o bob un o’r perfformiadau cydweithredol arbennig yma ar ein sianel Youtube 👇