Mae Tafwyl, Trac Cymru a’r Cyngor Prydeinig yn falch o gyhoeddi prosiect arbennig sy’n cyfuno cerddorion o Gymru a Llydaw i baratoi set arbennig i lwyfan Tafwyl 2022. Mae’r prosiect yn dod â chwech artist ynghyd – tri o Gymru a thri o Lydaw i greu cerddoriaeth newydd gyda’i gilydd fel partneriaid. Yr artistiaid yw Gwilym Bowen Rhys Nolwenn KorbellCerys Hafana a Léa, a Sam Humphreys a Krismenn. Mae’r prosiect yn cael ei hwyluso gan y cerddor Lleuwen Steffan – sy’n dod o Gymru ac yn byw yn Llydaw.

Bwriad y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Prydeinig Cymru, yw rhoi cyfle i’r artistiaid allu gweithio gyda artist o wlad gwahanol sydd yn gweithio trwy gyfrwng iaith leafrifol. Mae’r artistiaid yn barod wedi cychwyn arni trwy gydweithio ar y we ac fe fyddant yn treulio tridiau cyn Tafwyl gyda’i gilydd yn stiwdio Musicbox yng Nghaerdydd – cyn perfformio yn fyw gyda’i gilydd ar lwyfan Y Sgubor yn Tafwyl (18 + 19 Mehefin 2022).

Meddai Danny KilBride, Cyfarwyddwr Trac Cymru;

“Yn bersonol, rwyf wedi bod mor lwcus i gael gyrfa a pherthynas cynnes iawn gyda’r gwyliau yng Nghymru a Breizh ac yn awr, fel Cyfarwyddydd Trac Cymru, ein mudiad cenedlaethol ar gyfer ein traddodiadau cynhenid, rwyf mor falch i gyd-weithio ar y prosiect hwn i fod yn sbardun i genhedlaeth newydd o gydweithrediadau a thrafodaethau diwylliannol.

Ry’n ni wedi dod o hyd i 6 artist gall gryfhau y cyswllt hwn ac rydyn ni mor hapus dod â nhw i Tafwyl eleni – yn arbennig ar ôl anialwch digidol gofid Cofid. Ond er gwaetha’r ddwy flynedd o ynysu, fe ddysgon ni ffyrdd eraill o gydweithio, gyd-ganu a chyd chwarae. Mae Trac Cymru wedi bod yn gweithio gyda Menter Caerdydd a’r Cyngor Prydeinig i ddod â’r gerddoriaeth gynhenid draddodiadol ein gwlad fach ni i gynulleidfaoedd hen a newydd ac mae’r prosiect hwn yn profi pa mor gryf ydyn ni wrth inni weithio gyda’n gilydd.”

Gwilym Bowen Rhys x Nolwenn Korbell

Cerddor o Fethel yn Arfon yw Gwilym Bowen Rhys. Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru. Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun. Fe enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth dros y byd. Bydd Gwilym yn cyd-weithio gyda’r gantores ac actores Llydaweg-Ffrengig, Nolwenn Korbell. Mae Nolwenn yn enwog am ei chaneuon Llydaweg, gyda’i cherddorion hi neu fel rhan o ddeuawd gyda’r gitarydd Soïg Sibéri, mae hi wedi rhyddhau pump albwm ac yn gyson yn perfformio mewn cyngherddau, ac yn parhau i actio mewn cynhyrchiadau theatr a ffilm. 

Cerys Hafana x Léa 

Mae Cerys Hafana yn gerddor dawnus aml-offerynol o Fachynlleth. Mae’n ei arbenigo yn y delyn deires a’r piano, ond gyda’r gallu i chwarae y delyn celtaidd, clarinet a’r ffidil. Mae Cerys wedi teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn canu’r delyn deires, gan gynnwys yr Ynysoedd Aran ac i’r Ŵyl Interceltic yn Lorient.  Bydd Cerys yn cydweithio gyda Léa, sy’n astudio canu yn y Conservatoire de Lille, a chyn hynny wedi cael ei haddysg yn gwbwl drwy gyfrwng y Llydaweg trwy rhwydwaith yr ysgolion Diwan yn Llydaw.  Mae’n gantores ac yn gyfansoddwraig sydd wedi ei hysbrydoli gan chwedlau, ac wedi cael ei dylanwadu gan Bob Dylan, Joan Baez a Lhasa. 

Sam Humphreys x Krismenn

Cerddor o Ben-llyn yng Ngogledd Cymru yw Sam Humphreys. Mae Sam wedi ei ysbrydoli gan sawl genre o gerddoriaeth gwahanol, gyda’i gefndir mewn cerddoriaeth roc, cerddoriaeth electrig a cherddoriaeth gwerin wedi ei blethu gyda cherddoriaeth modern. Mae Sam yn rhan o Calan, Pendevig, NoGood Boyo ac yn gweithredu o dan yr enw ‘Shamonix’. Yn ychwanegol i hyn, mae Sam wedi recordio, cynhyrchu a chymysgu cerddoriaeth i lwyth o artistiaid. Mae hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer ffilmiau a theledu. 

Bydd yn cydweithio gyda Krismenn, sydd yn artist rap, yn ganwr, sgwenwr ac yn gerddor drwy gyfrwng y Llydaweg a Ffrangeg. Fe greodd y genre ‘kan ha beatbox’, cyfuniad o’r traddodiad cerddorol kan ha diskan gyda beatboxing. Mae’n angerddol am rap, beatbox a’r Llydaweg, ac yn adnabyddus yn cyfuno yr elfennau yma gyda cherddoriaeth bluegrass, urban ac electronig. Yn Rhagfyr 2021, cafodd Krismenn ei benodi yn Gyfarwyddwr Artistig ‘Kreiz Breizh Akademi’, rhaglen hyfforddi i gerddorion proffesiynnol yn Llydaw. 

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan nawdd Gyngor Prydeinig Cymru. 

Mwy o wybodaeth yma
Lein-yp llawn Tafwyl yma

Skip to content