Mae Gwobrau Gwerin Cymru yn dathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Cymru ar ei lefel uchaf. Ar ôl cyfnod mor anodd i gerddoriaeth fyw yn ystod y pandemig, mae’r Gwobrau ‘nôl yng Ngwanwyn 2023 er mwyn tynnu sylw at gyflawniadau cerddorol Cymru. 

Mae’r cyhoedd yn cael ei gwahodd i anfon eu henwebiadau ar gyfer deg categori sy’n amrywio o’r Grŵp Gorau i’r Act Newydd Gorau. Mae unrhyw drac/act/perfformiad/neu albwm gwerin Cymraeg a ryddhawyd rhwng 1 Ionawr 2019 a 31 Rhagfyr 2022 yn gymwys ar gyfer enwebiad.

Y categoriau y gallwch eu henwebu ar eu cyfer yw –

  1. Y GÂN GYMRAEG DRADDODIADOL ORAU
  2. Y GÂN SAESNEG WREIDDIOL ORAU
  3. Y GÂN GYMRAEG WREIDDIOL ORAU
  4. Y TRAC OFFERYNNOL GORAU
  5. YR ARTIST/BAND GORAU SY’N DECHRAU DOD I’R AMLWG
  6. YR ARTIST UNIGOL GORAU
  7. YR ALBWM GORAU
  8. YR PERFFORMIAD BYW GORAU
  9. Y GRŴP GORAU
  10. DEWISIAD Y WERIN

Gall y cyhoedd wneud eu henwebiadau yma gan ddefnyddio’r ffurflen google hon. Efallai bydd angen i chi greu cyfrif google os nad oes gennych chi un yn barod i gael mynediad i’r ffurflen. Mae’r enwebiadau cyhoeddus yn cau ar yr 20fed o Chwefror. 👇

https://forms.gle/dc6RWCHCPyXDFb1q7

Mae cant o gynrychiolwyr o wyliau, hyrwyddwyr, lleoliadau, cyfryngau a threfnwyr gwerin wedi cael eu gwahodd fel Panel Rhestr Hir i ddewis enwebiadau gan y cyhoedd i greu rhestr fer. Bydd y rhestr fer hon yn mynd ymlaen i saith beirniad annibynnol sy’n cynrychioli’r byd cerddoriaeth werin, lle byddant yn dewis yr enillwyr ym mhob categori.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Wobrwyo ddisglair yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar y 20fed Ebrill. Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau byw gan rai o’r enillwyr, gyda BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn darlledu rhaglenni wedi’u recordio ar y noson. Bydd tocynnau ar gyfer y Noson Wobrwyo yn mynd ar werth yn fuan.

Lansiwyd Gwobrau Gwerin Cymru yn 2019, ac mae’n bartneriaeth rhwng Trac Cymru (elusen datblygu gwerin Cymru), BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac unigolion arwyddocaol o fyd cerddoriaeth werin Gymreig.

Mae mwy ar y Gwobrau agoriadol yma https://trac.cymru/en/wales-folk-awards/ lle gallwch weld ffotograffau o’r noson, yr enillwyr a’r darnau crefft a ddyfarnwyd fel tlysau.

Skip to content