Mae Cymru nawr wedi cyrraedd Lefel rhybudd 0 ar gyfer Covid-19. Dyma fwy o wybodaeth am beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer digwyddiadau gwerin a cherddoriaeth byw. Ewch i wefannau a sianelu cyfryngau cymdeithasol trefnwyr  i weld os mae ei digwyddiadau yn cael eu cynnal.

Crynodeb

  • Nid oes mwyach cyfyngiadau cyfreithiol ar y nifer o bobl a gaiff gwrdd o do gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau.
  • Caiff pob busnes a phob safle oedd wedi cau o ganlyniad i gyfyngiadau agor unwaith eto gan gynnwys clybiau nos.
  • Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol o dan do, ac eithrio mewn lleoliadau lletygarwch megis bwytai, tafarndai, caffis neu glybiau nos. Bydd y llywodraeth yn parhau i adolygu’r gofynion am orchuddion wyneb.
  • Dylwch hunan-ynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau. Mae hi dal yn ofyniad cyfreithiol i hunan-ynusu am 10 diwrnod o’r dydd prawf os ydych yn profi yn bositif am Covid-19.
  • Ni fydd rhaid i oedolion sydd wedi’u brechu’n lawn, pobl o dan 18 oed a phobl sy’n cymryd rhan mewn treial brechlyn hunan ynysu os ydynt yn gysylltiad agos i rywun sydd â Covid-19. Os ydych wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif ac nad ydych wedi cael eich brechu’n llawn (dwy frechiad), rhaid i chi hunanynysu am 10 diwrnod hefyd yn unol â chyfarwyddyd y system Profi Olrhain Diogelu.

Os ydych chi’n mynychu sesiwn, gig, gŵyl, clwb gwerin, gweithdy, ymarfer, neu unrhyw fath o ddigwyddiad gyhoeddus edrychwch ar wefan, cyfryngau cymdeithasol, neu dudalennau digwyddiadau y trefnwyr i gael manylion am y rhagofalon diogelwch sydd ganddyn nhw mewn lle i leihau risg Covid-19.

Os ydych chi’n trefnu unrhyw sesiynau, gigs, clybiau gwerin, gweithdai, ymarferion, neu ddigwyddiadau cyhoeddus bydd angen i Covid-19 fod yn ystyriaeth wrth ysgrifennu eich asesiad risg. Bydd angen i chi gymryd “mesurau rhesymol” yn ôl y gyfraith i leihau’r risg Covid-19 i’r bobl yn eich digwyddiad. Os ydych chi’n cynnal digwyddiad mewn lleoliad cyhoeddus, gweithiwch gyda staff y lle i sicrhau bod eich digwyddiad yn cael ei gynnal mewn ffordd diogel ar eu safle.

Mae mwy o wybodaeth am “fesurau rhesymol” ar gael YMA

Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach am asesiadau risg Covid-19 YMA

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer bach hollbwysig o ofynion cyfreithiol i helpu lleihau’r risg y bydd y Covid-19 yn lledaenu. Mae gan fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill ddyletswydd i ddiogelu eu gweithwyr a’u cwsmeriaid tra byddant ar eu safle. Mae hyn yn golygu fod rhaid i bob gofod cyhoeddus gyflawni asesiad risg a chymryd “mesurau rhesymol” i leihau risg y feirws. Fydd gan bob gofod cyhoeddus ei mesurau ei hunan ar gyfer lleihau’r risg yn ddibynnol ar eu hasesiad risg. Mae’n bwysig felly eich bod yn gwirio gwefannau pob lleoliad gwahanol i weld beth yw ei gofynion nhw o ran diogelu yn erbyn Covid-19.

 

Mae Llywodraeth Cymru dal yn argymell y dylai bobl edrych am ffyrdd i leihau risg y feirws hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu yn llawn drwy:

  • Gweithio gartref pryd bynnag y gallwch.
  • Cael prawf a hunanynysu, hyd yn oed os symptomau ysgafn sydd gennych.
  • Cwrdd yn yr awyr agored – mae’n fwy diogel na chwrdd dan do.
  • Cyfyngu ar nifer y bobl rydych yn cymysgu â nhw a’r amser rydych yn ei dreulio gyda nhw.
  • Cadw pellter oddi wrth eraill pan fo modd.
  • Golchi eich dwylo a gwisgo gorchudd wyneb, yn enwedig mewn mannau gorlawn.
  • Os yn cwrdd o dan do sicrhau bod awyr iach drwy agor ffenestri a drysau.

Dewch o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru YMA

Skip to content