Un o nodau Trac yw sicrhau teimlad mai traddodiadau gwerin Cymreig yw calon gynnes bywyd cyfoes yng Nghymru – dyma pam y credwn ei bod yn hanfodol i ni greu cyfleoedd i drosglwyddo ein treftadaeth unigryw o genhedlaeth i genhedlaeth. Am bron i ddegawd bu’r Arbrawf Mawr, un o brosiectau mwyaf hirhoedlog yr elusen, yn cynnig y maes chwarae ysbrydoledig hwn.
‘Ysgol werin’ i deuluoedd a phobl o bob oed oedd yr Arbrawf Mawr, a gynhaliwyd rhwng 2008 a 2017 fel prif ddigwyddiad blynyddol Trac Cymru. Byddai dros gant o gerddorion gwerin yn dod ynghyd ar gyfer penwythnos preswyl yn llawn alawon, canu a dawnsio. Roedd y dysgwyr brwd yn cael y cyfle i wella eu techneg yng nghwmni tiwtoriaid o’r radd flaenaf, ac i arbrofi ag offerynnau, caneuon ac arddulliau dawns anghyfarwydd.
Byddai’r digwyddiad yn teithio rhwng Ynys Môn, Sir Benfro a Chaerfyrddin, a byddai’r gymysgedd gyfartal o siaradwyr Cymraeg a mynychwyr di-Gymraeg yn rhoi blas ac egni unigryw i’r digwyddiadau. Roedd croeso arbennig i grwpiau o ddysgwyr y Gymraeg, gyda’r cyfle i fwynhau penwythnos dwyieithog ble roedd modd iddynt ymarfer eu sgiliau Cymraeg gyda siaradwyr rhugl.
Mae’r rhestr o diwtoriaid dros y blynyddoedd yn darllen fel mynegai cynhwysfawr i gerddoriaeth werin yng Nghymru – Stephen Rees, Arfon Gwilym, Siân James, Oli Wilson-Dickson, Patrick Rimes, Robin Huw Bowen, Pat Smith, Guto Dafis, Huw Williams, Bethan Nia, Tudur Phillips, Beth Williams-Jones, Sioned Webb, Robert Evans, Mair Tomos Ifans, Angharad Jenkins, Gwilym Bowen Rhys, Stacey Blythe a llawer mwy.
Roedd aelodau ifanc yn cael gweld fod dysgu yn rhywbeth arbennig sy’n para am oes, wrth iddynt ymarfer yn llawen ochr yn ochr â rhieni, neiniau a theidiau. Cynigid bwrsariaethau i bobl ifanc a grŵp boreol arbennig i blant rhwng 7 a 10 oed. Ffurfiodd Gwerin Gwallgo fel cangen o goeden fywiog yr Arbrawf Mawr, gan alluogi’r holl fynychwyr yn eu harddegau i gael penwythnos gwerin iddynt eu hunain, a dilynwyd hynny gyda Gwerin Iau i’r plant ieuengaf.
Trwy’r Arbrawf Mawr y datblygodd nifer o brosiectau gwych eraill: daethom i adnabod Gwen Mairi, a aeth yn ei blaen i ymuno â’n prosiect 10 Mewn Bws, gan arwain at gyfleoedd fel telynores werin Gymreig, yn ogystal â thiwtora Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Daethom hefyd i adnabod y canwr a’r ffliwtydd Huw Evans, a daeth yntau yn aelod o 10 Mewn Bws; yn ogystal â Jess Ward sydd bellach wedi rhyddhau dau albwm o gerddoriaeth i’r delyn a’r llais. Ffurfiwyd Clybiau Alawon ym Machynlleth a Llanilltud Fawr dan arweiniad rhai o fynychwyr rheolaidd yr Arbrawf Mawr, a datblygwyd crefft rhai o brif gerddorion gwerin cyfoes Cymru, megis Aneirin Jones a Jordan Price Williams o Vri, trwy ddysgu ochr yn ochr â rhai mwy profiadol ar y penwythnosau cofiadwy hyn.
Gwyliwch y fideo uchafbwyntiau BEAM 2017 yma 👇
BEAM2017 : Big Experiment / Arbrawf Mawr
Roedd hi’n ben-blwydd Trac Cymru 21 oed yn dwy fil dauddeg un, ond cafodd ein cynlluniau i ddathlu eu gohirio, fel oedd llawer eraill. Felly wrth i ni baratoi i lansio ein gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer dyfodol y sefydliad, hoffen ni ddathlu’r 21+1 mlynedd o Trac, a rhannu gyda chi ychydig o’n llwyddiannau ni.
Gallwch ein helpu i ariannu ein gwaith drwy gyfrannu heddiw. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21