Cenhadaeth elusennol Trac Cymru yw sicrhau y gall ein treftadaeth gerddorol genedlaethol oroesi a ffynnu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Rydym yn cefnogi ceidwaid ein traddodiad i helpu wrth sicrhau fod caneuon hynafol ar gael i genedlaethau’r dyfodol.

Fel un o’n prif brosiectau, bu i ni gydweithio ag Arfon Gwilym, un o’r rhai gwerthfawr hynny sy’n gwarchod hen alawon Cymru, er mwyn sicrhau y byddai cyfran helaeth o’i drysorfa eang o ganeuon ar gael ar-lein i bawb.

Am flynyddoedd lawer bu i’r athro carismataidd hwn, sy’n cadw repertoire o gannoedd o ganeuon ar flaen ei dafod, rannu ei wybodaeth gynhwysfawr am ganeuon yn ‘ysgol werin’ pontio’r cenedlaethau Trac Cymru, Yr Arbrawf Mawr. Mae Arfon wedi bod o gymorth i gantorion dirifedi ar bob lefel, nid yn unig wrth ddysgu caneuon gwerin traddodiadol Cymru, ond caneuon yn nhraddodiadau mwy arbenigol cerdd dant a phlygain, hefyd – gyda’r cantorion yn dysgu ‘o’r glust’, yr arddull fwyaf dilys o addysgu ym myd cerddoriaeth draddodiadol.

Roedd Arfon wedi’i synnu fod nifer o’r caneuon yr ystyriai ef eu bod yn ‘glasuron’ ym myd gwerin mewn gwirionedd yn anhysbys i’r cantorion a fynychai ei ddosbarthiadau; dyma’r rheswm y bu i Trac Cymru argymell creu casgliad o recordiadau ar-lein er mwyn sicrhau fod y caneuon arbennig hyn ar gael i fwy o bobl o lawer – enghraifft o ddefnyddio technoleg newydd i gefnogi arddull draddodiadol o ddysgu.

“Ar lafar yn bennaf y cafodd caneuon gwerin eu trosglwyddo ar hyd y canrifoedd”, medd Arfon, “ac o’r glust y dylid eu dysgu bob amser os oes modd. Caneuon ydyn nhw, bron i gyd, a glywais i yn cael eu canu cyn i mi erioed eu gweld ar bapur. Dyna pam fod rhywun, yn ddiarwybod bron, yn efelychu dull o ganu nad oes modd ei gyfleu ar bapur.”

Mae’r adnodd amhrisiadwy hwn, sy’n cynnwys 45 o ganeuon, ar gael am ddim ar Soundcloud ac YouTube, a gellir cael mynediad ato’n hawdd trwy wefan Trac Cymru, lle mae trawsgrifiadau o’r geiriau i gyd-fynd â nifer o’r fideos ar gael i helpu wrth ddysgu 👇

Caneuon Gwerin o Gymru – Casglias gan Arfon Gwilym

 

Gyda’ch cymorth chi, gellid gwarchod llawer iawn mwy o hen ganeuon hardd er budd cenedlaethau’r dyfodol – ystyriwch gefnogi Trac Cymru i barhau i ddatblygu archif o adnoddau er etifeddiaeth Cymru trwy gyfrannu heddiw. 

Roedd hi’n ben-blwydd Trac Cymru yn 21 oed yn 2021, ond diolch i’r coronafeirws bu’n rhaid gohirio ein cynlluniau i ddathlu’r garreg filltir hon. Wrth i ni ddatblygu ein rhaglen newydd gyffrous at y dyfodol, cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21.

Skip to content