Yn dilyn gweld yr holl fuddion gwych i bobl ifanc yn eu harddegau fu’n mynychu cwrs trwytho preswyl Trac Cymru, penderfynodd yr elusen ymestyn y buddion hynny i helpu plant iau eto, wrth ddatblygu eu sgiliau personol tra’n dysgu am gerddoriaeth draddodiadol.

Yn dechrau yn 2016 tyfodd cwrs poblogaidd Gwerin Iau i fod yn ddigwyddiad blynyddol yn lleoliad godidog Canolfan yr Urdd ger Y Bala yng Ngogledd Cymru, gan gynnig gweithdai canu, clocsio ac offerynnol i blant rhwng 8 a 12 oed gyda rhai o sêr amlycaf y traddodiad gwerin yng Nghymru.

Un o’r pethau pwysicaf i’r plant oedd bod y cwrs wedi rhoi’r cyfle iddynt wneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru: “Rydw i wedi dysgu y gall gwneud rhywbeth rydych chi’n ei ofni fod yn dipyn o hwyl, mewn gwirionedd!”

Gwyliwch ein fideo o’r cwrs 2018 👇

Wrth reswm, ni fu modd cynnal ein cyrsiau yn ystod y pandemig Covid-19, ond bwriad Trac Cymru yw ail-lansio’r gweithgareddau hanfodol hyn i bobl ifanc yn fuan iawn. Gallwch ein cynorthwyo yn y gwaith o ariannu ein rhaglenni addysgol trwy gyfrannu heddiw.

Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21.

Skip to content