Bu Trac Cymru yn gweithio i sicrhau y bydd traddodiadau gwerin Cymru yn parhau i gael eu trysori gan y genedl trwy gefnogi datblygiad cerddorion ifanc a dathlu’r artistiaid hynny sydd eisoes yn rhagori wrth eu crefft. Yn ddiweddar, bu’n destun cyffro i ni gyflawni ein huchelgais o sefydlu digwyddiad gwobrwyo uchel ei broffil i ddwyn y sylw mwyaf posib at dalentau gorau ein gwlad.

Does dim byd tebyg i wobr, neu hyd yn oed enwebiad, am dynnu sylw at ansawdd. Dros gyfnod o nifer o flynyddoedd buom yn trafod y syniad o seremoni Gwobrau Gwerin cenedlaethol i Gymru gyda Frank Hennessy, y darlledwr cenedlaethol, ac un o Noddwyr pwysig Trac Cymru. Yn 2019 llwyddom i wneud hynny o’r diwedd – ac am noson! Mewn digwyddiad gorlawn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, roedd y gwobrau yn ddathliad o’r holl berfformwyr proffesiynol talentog yn sin gerddoriaeth werin a thraddodiadol Cymru.

Darlledwyd y Noson Wobrwyo ar raglen Frank Hennessy, Celtic Heartbeat ar BBC Radio Wales, ac ar Sioe Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru. Roedd yn cynnwys perfformiadau byw gan rai o’r enillwyr gan gynnwys The Trials of Cato, Gwilym Bowen Rhys, VRï, a Calan. Ymhlith yr enillwyr eraill yn cynnwys Martyn Joseph, Lleuwen, Alaw a Pendevig, a chyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Oes i’r casglwr caneuon, Dr Roy Saer.

Cafodd digwyddiad Gwobrau Gwerin Cymru ei gydlynu mewn partneriaeth gan Trac Cymru, BBC Radio Wales a Radio Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a rhai ffigyrau amlwg ym myd cerddoriaeth werin Cymru. Dewiswyd yr enillwyr o restr hir a luniwyd gan banel yn cynrychioli trefnwyr clybiau a gwyliau gwerin, cerddorion ifanc, cynheiliaid y traddodiad, gohebwyr a darlledwyr o fyd cerddoriaeth, hyrwyddwyr, ymgyrchwyr gwerin a selogion y sin.

Gellir dod o hyd i’r holl enillwyr, y rhai oedd ar y rhestrau byrion, a rhagor o wybodaeth am y gwobrau yma

Wrth i fyd y celfyddydau perfformio gychwyn adfer yn sgil Covid, rydym eisoes yn cynllunio Gwobrau 2023 – gyda mwy nac erioed o fewnbwn gan y sin werin a’r cyhoedd. Rydym yn chwilio am nawdd ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys gwobrau unigol, felly cysylltwch am fwy o fanylion os hoffech gefnogi’r fenter genedlaethol werthfawr hon.

Oherwydd y coronafeirws, rhoddwyd taw ar ein cynlluniau ar gyfer dathlu’r garreg filltir bwysig o gyrraedd pen-blwydd Trac Cymru yn 21 oed yn 2021, ond rydym wedi parhau gyda’n nod o gefnogi mwy nac erioed o bobl i ddatblygu eu cysylltiad arbennig eu hunain gyda’n cerddoriaeth genedlaethol anhygoel. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.

Skip to content