Ers 21+1 o flynyddoedd, bu Trac Cymru yn gweithio i sicrhau y gall traddodiadau gwerin Cymru oroesi a ffynnu yn y dyfodol trwy helpu cynulleidfaoedd i ddarganfod a mwynhau cerddorion traddodiadol anhygoel ein gwlad. Mae’r elusen yn parhau i ddatblygu cyfleoedd hygyrch i’r cyhoedd ddod i gyswllt gydag artistiaid o Gymru ar bob cam yn eu gyrfa.
Pan sefydlwyd Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod ar y dechrau gan Trac Cymru, bu i ni gynnal perfformiadau am ddim a roddodd gyfleoedd i artistiaid megis Gwenan Gibbard, Tornish a Stacey Blythe gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib. Yn ddiweddarach, pan symudodd Tŷ Gwerin i’r Iwrt, gyda rheolaeth lwyfan gan Trac Cymru, sefydlodd ei hun fel y lle i fynd yn yr ŵyl i glywed artistiaid gwerin newydd, yn ogystal â mwynhau perfformwyr chwedlonol megis Dafydd Iwan, sy’n un o Noddwyr ein helusen.
Fel rhan o arlwy penwythnos yr Arbrawf Mawr bu i ni hefyd gynnwys perfformiadau gan fandiau ifanc cyffrous fel Calan a Vrï, yn ogystal â rhoi llwyfan i dalentau rhai o brif gynheiliaid traddodiadau ein cenedl, gan gynnwys Arfon Gwilym a Sioned Webb, Stacey Blythe, Oli Wilson-Dickson, Stephen Rees a Huw Roberts, a llawer mwy. Mae’r fideo amatur cyffrous hwn yn dal ffidlo Stephen a Huw i’r dim, mewn un digwyddiad o’r fath 👇
Mewn prosiectau arbrofol arbennig fel Dros y Ffin a 10 Mewn Bws, bu i’r artistiaid proffesiynol ifanc rhagorol greu cerddoriaeth newydd wych, yn ogystal ag ailymweld â’r repertoire traddodiadol. Cafodd y gwaith wedyn ei lwyfannu o flaen y cyhoedd mewn nifer o leoliadau a gwyliau yng Nghymru a thu hwnt.
Trwy ein partneriaeth â gwyliau Tafwyl a Focus Wales, mae Trac Cymru wedi helpu cerddoriaeth werin i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys perfformiadau gan Alaw, Elfen, Morfa, Yr Hwntws ac Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, Avanc. Yn y gorffennol bu i ni hefyd gynorthwyo gyda rhaglennu dathliadau Calan Mai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Rhan o’n strategaeth i annog dilynwyr newydd i ddisgyn mewn cariad gyda cherddoriaeth draddodiadol fu darparu gweithdai blasu i fynychwyr gwyliau er mwyn iddynt roi cynnig arni eu hunain, gyda’r cyfle i ddysgu gan artistiaid medrus megis y delynores Bethan Nia a’r clocsiwr Tudur Phillips.
Oherwydd y coronafeirws, bu’n rhaid gohirio ein cynlluniau ar gyfer dathlu’r garreg filltir bwysig o gyrraedd pen-blwydd Trac Cymru yn 21 oed yn 2021, ond rydym wedi parhau gyda’n nod o gefnogi mwy nac erioed o bobl i ddatblygu eu cysylltiad arbennig eu hunain gyda’n cerddoriaeth genedlaethol anhygoel. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.