Ers 21+1 o flynyddoedd, bu Trac Cymru yn gweithio i sicrhau y gall traddodiadau gwerin Cymru oroesi a ffynnu yn y dyfodol trwy helpu i ddatblygu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer cerddorion anhygoel ein gwlad. Mae hyn wedi cynnwys magu archwaeth ryngwladol am flas unigryw cerddoriaeth draddodiadol y genedl.

Er mai gwlad cymharol fechan yw Cymru, mae Trac Cymru wedi gweithio’n galed i gyflwyno artistiaid Cymreig i bedwar ban byd – gan gynrychioli’r wlad a’i cherddoriaeth yn rhai o’r digwyddiadau cerddoriaeth werin a byd uchaf eu proffil yn rhyngwladol, ac arddangos rhai o’n hartistiaid gorau i’r diwydiant cerdd byd-eang.

Bu’r elusen yn rhan o’r sin gerddoriaeth byd ers bron i ugain mlynedd erbyn hyn, ers y tro cyntaf i ni fynychu WOMEX (the World Music Expo) yn 2005. Yn ddiweddarach, pan gynhaliwyd y digwyddiad blynyddol hwn yng Nghaerdydd yn 2013, heidiodd y cynrychiolwyr rhyngwladol i ofod arddangos Trac Cymru, yn ferw o ymholiadau am gerddoriaeth y wlad yr oeddent yn ymweld â hi.

Prif nod ein gwaith rhyngwladol yw creu cysylltiadau a thyfu rhwydweithiau er mwyn helpu i gynnal gyrfaoedd proffesiynol artistiaid o Gymru – er enghraifft, mae gan yr Unol Daleithiau a Chanada ddarpar-gynulleidfa sydd dros ganwaith yn fwy na’r gynulleidfa yng Nghymru, ac yn ystod y ddegawd a fu rydym wedi galluogi llawer o artistiaid amrywiol i gael proffil yn y farchnadle enfawr hon sy’n gallu bod yn llethol ar brydiau. Helpu cerddorion ein cenedl i gyrraedd y cynulleidfaoedd newydd enfawr hyn yw’r rheswm y mae Trac Cymru yn mynychu digwyddiadau rhyngwladol megis Cynhadledd Folk Alliance International, sy’n llwyfannu dwy fil o arddangosiadau dros bedwar diwrnod ac yn denu dros 3,000 o gynrychiolwyr sy’n mynychu er mwyn darganfod cerddoriaeth draddodiadol newydd a chyffrous o bob cwr o’r byd: asiantau, labeli recordiau, hyrwyddwyr, lleoliadau, trefnwyr gwyliau ac amryw byd o asiantaethau cefnogol.

Ffair Werin Lloegr (EFEx) yw ein ffair fasnach ryngwladol agosaf sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth werin, ac mae’n rhoi sylw arbennig i un wlad arall bob blwyddyn. Cymru oedd y partner rhyngwladol yn 2018, a bu Trac Cymru yn cydweithio â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a phartneriaid eraill i arddangos pedwar act o Gymru sef Alaw, Gwyneth Glyn, 9 Bach, a Catrin Finch gyda Seckou Keita. Ein rôl flynyddol yn EFEx yw sicrhau fod gwledydd cyfagos yn parhau i ddarganfod y gerddoriaeth draddodiadol ragorol ac arloesol sy’n datblygu yng Nghymru, ac annog gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerdd i fwcio ein perfformwyr ar gyfer gwyliau, clybiau a chanolfannau celfyddydol ledled y DU.

Mae Brexit wedi cyflwyno anawsterau newydd i fywydau cerddorion proffesiynol sy’n dibynnu ar deithio dramor; yn ddiweddar fodd bynnag, mewn ymateb i hynny, bu i Trac sefydlu’r European Folk Network (EFN) ar y cyd â grŵp o gydweithwyr rhyngwladol fel ymgais i oresgyn rhai o’r sialensiau hynny. Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf yr EFN ym Mwdapest yn 2021, ac mae 138 o sefydliadau cerddorol ac artistiaid bellach yn aelodau.

Soniodd Danny KilBride, cyfarwyddwr Trac Cymru, am genhadaeth yr elusen i gynyddu cynulleidfaoedd rhyngwladol artistiaid o Gymru: “Rydym yn wlad fechan gyda llais enfawr gan fod gennym iaith, diwylliant a cherddoroldeb unigryw, a hynny ochr yn ochr â chydwybod gymdeithasol rymus ac angerdd dros fywyd sydd wedi rhoi inni’r teitl ‘Gwlad y Gân’. Pethau i’w rhannu yw caneuon a gall ein cerddorion ni sefyll yn gydradd ar unrhyw lwyfan yn y byd. Gwaith Trac Cymru yw sicrhau eu bod yn cael y cyfle hwnnw.”

Oherwydd y coronafeirws, bu’n rhaid gohirio ein cynlluniau ar gyfer dathlu’r garreg filltir bwysig o gyrraedd pen-blwydd Trac Cymru yn 21 oed yn 2021, ond rydym wedi parhau gyda’n nod o gefnogi mwy nac erioed o bobl i ddatblygu eu cysylltiad arbennig eu hunain gyda cherddoriaeth anhygoel ein gwlad. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.

Skip to content