Mae Trac Cymru’n anelu at sicrhau’r teimlad mai traddodiadau gwerin Cymru yw calon gynnes bywyd cyfoes yng Nghymru – dyma pam mae’n hanfodol pasio ein treftadaeth unigryw o un genhedlaeth i’r llall. Ond nid cerddorion gwerin sefydledig yn unig mae’r elusen wedi cefnogi ar eu dilyniant gyrfa, rydym yn falch o fod wedi helpu nifer o gerddorion Cymreig eraill o genres eraill i archwilio eu treftadaeth gerddorol.

Roedd ’10 Mewn Bws’ yn un prosiect o’r fath lle gwahoddwyd deg cerddor o wahanol gefndiroedd cerddorol, gan gynnwys clasurol, jazz, a roc i ymgymryd â thaith ymchwil i’w gwreiddiau cerddorol er mwyn ail-ddadansoddi cerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn ffyrdd sy’n berthnasol iddyn nhw.

Buodd y deg cerddor yn ymweld â’r archifau sain yn Sain Ffagan a chasgliadau cerdd y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal â chwrdd â rhai o ‘gynheiliaid traddodiad’ ac ethnogerddoregwyr Cymru yn cynnwys Phyllis Kinney a Meredydd Evans, Arfon Gwilym, a Stephen Rees.

Yna cydweithiodd y deg cerddor i ail-ddehongli’r deunydd traddodiadol a chyfansoddi cerddoriaeth newydd, ac aeth ymlaen i berfformio yn nigwyddiad y World Music Expo (WOMEX) yng Nghaerdydd, yng Ngŵyl y Gelli, a chyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. Gallwch gwrdd â’r deg cerddor yma.

Gwilym Bowen Rhys o Fethel, Caernarfon, oedd yr ieuengaf o’r cerddorion yn cymryd rhan yn y prosiect ac ar y pryd roedd yn gwneud enw iddo’i hun fel cerddor roc; fodd bynnag ers cymryd rhan yn y prosiect 10 Mewn Bws, mae wedi mynd ymlaen i fod yn ffigur pwysig ar y sîn werin Gymreig, gan ymchwilio a recordio baledi hen a newydd mewn cyfres o albymau llwyddiannus. Yn y fideo canlynol mae Gwilym yn sôn am bwysigrwydd dathlu’r hyn sy’n arbennig am ddiwylliant Cymru, sut agorodd Trac Cymru ddrws iddo, a sut oedd symud o gerddoriaeth roc i werin wedi newid ei holl yrfa gerddorol.

Wrth i ni gymryd trem yn ôl ar ein 21+1 o flynyddoedd hyd yma o weithio i gynnal y traddodiadau cerddorol sydd mor bwysig i ni fel cenedl, mae Trac Cymru hefyd wrthi’n cynllunio ein rhaglen o gefnogaeth at y dyfodol, i gefnogi’r to nesaf o gerddorion ifanc o Gymru. 

Helpwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21, a gallwch ein helpu i ariannu ein rhaglen i bobl ifanc trwy gyfrannu heddiw.

 

Skip to content