Ers 21+1 o flynyddoedd, bu Trac Cymru yn gweithio i sicrhau y gall traddodiadau gwerin Cymru oroesi a ffynnu yn y dyfodol trwy gefnogi datblygiad gyrfaol cerddorion sy’n rhagori wrth eu crefft. Bu i’r elusen chwarae rôl bwysig yn natblygiad cynnar nifer o artistiaid amlwg, gan gynnwys aelodau’r bandiau Calan, NoGood Boyo, a VRï, a rhan bwysig o’n gwaith yw darparu cefnogaeth yrfaol a hyrwyddo parhaus i gerddorion proffesiynol Cymreig.

Ar ddechrau mis Hydref, cafodd y band ‘gwerin siambr’ Cymreig, VRï, eu cynnwys yn 30 uchaf yn y Siart Cerddoriaeth Byd Rhyngwladol gyda’u hail albwm, ‘Islais a Genir’. Mae straeon bywyd Jordan Price Williams, Patrick Rimes ac Aneirin Jones, y sêr cerddorol sy’n ffurfio’r band, yn cysylltu’n agos gyda Trac Cymru, fel y mae cyfarwyddwr yr elusen, Danny KilBride, yn dwyn i gof: “Fe wnes i gyfarfod Patrick Rimes am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth ffidil pan oedd e’n 12 oed, Aneirin pan ddaeth i’r Arbrawf Mawr yn 14 oed, a Jordan pan oedd e’n fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru.

“Allwn ni ddim hawlio unrhyw gyfrifoldeb am dalent aruthrol y genhedlaeth gyffrous hon o fandiau Cymreig, ond rydym ni’n hapus o fod wedi gallu cynnig llawer iawn o fentora, hyfforddiant a chyngor iddyn nhw. Rydym ni wrth ein boddau yn eu gweld yn llwyddo pan fyddwn ni’n meddwl cymaint o’n cyrsiau fuon nhw’n eu mynychu, sawl gwaith y bu hi’n bosib i ni eu rhoi nhw ar restrau byrion, gweithio gyda’u timoedd rheoli, mynd â nhw i gynadleddau a digwyddiadau masnach, a’u cynrychioli ar adegau pan roedd angen brocer arnyn nhw.” 

Yn y fideo a ganlyn, mae Jordan Price Williams yn siarad yn ysbrydoledig am ei daith bersonol fel cerddor, ei gariad tuag at gerddoriaeth draddodiadol Cymru, a’i gysylltiadau â gwaith Trac Cymru:

Wrth i ni gymryd trem yn ôl ar ein 21+1 o flynyddoedd hyd yma o weithio i gynnal y traddodiadau cerddorol sydd mor bwysig i ni fel cenedl, mae Trac Cymru hefyd wrthi’n cynllunio ein rhaglen o gefnogaeth at y dyfodol, i gefnogi’r to nesaf o gerddorion ifanc o Gymru. Helpwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21, a gallwch ein helpu i ariannu ein rhaglen i bobl ifanc trwy gyfrannu heddiw.

Skip to content