Ers 21+1 o flynyddoedd, bu Trac Cymru yn gweithio i sicrhau y gall traddodiadau gwerin Cymru oroesi a ffynnu i’r dyfodol trwy gefnogi toeon newydd o gerddorion wrth iddynt barhau i roi eu stamp bywiog a chyffrous eu hunain ar eu celfyddyd. Bu i’r elusen chwarae rôl bwysig yn natblygiad cynnar nifer o artistiaid llwyddiannus, ac mae’n cymryd ei chyfrifoldeb o ddifrif wrth gefnogi pobl i lansio gyrfaoedd newydd.
Un sy’n gwylio gyda balchder wrth i sawl un o’r to diweddaraf o gerddorion newydd sy’n aelodau o Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru gymryd camau tuag at yrfaoedd proffesiynol annibynnol yw cyfarwyddwr Trac Cymru, Danny Kilbride. Soniodd am ei ymroddiad personol ef i ddatblygu talentau newydd:
“Mae fy ngyrfa gerddorol i yn ymestyn dros hanner canrif, gan ddatblygu yn llythrennol o fod yn blentyn 8 oed ym mand gwerin ei fam i ddod yn bennaeth elusen genedlaethol sy’n gyfrifol am sicrhau y gallwn ni drosglwyddo ein traddodiadau i’r cenedlaethau sydd i ddod. Yn debyg i gamu i’r llwyfan o flaen cynulleidfa fawr a dieithr, mae’n gyfrifoldeb brawychus ac yn fraint i’w mwynhau, hefyd. Brawychus, oherwydd y cyfrifoldeb tuag at y rhai hynny sy’n cynnal ein traddodiadau a chof y rhai a fu; ond i’w fwynhau am fod cyfrifoldeb dros yr un daith gyffrous ac ysbrydoledig a gefais i fel plentyn yn beth anhygoel.
“Rydym wedi cynnig hyfforddiant ac interniaethau gwirfoddol er mwyn i gerddorion ifanc ddysgu sut mae’r busnes cerddoriaeth yn gweithio. Mae Avanc, ein Hensemble Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol, yn cynnwys 11 o unigolion eithriadol o dalentog a ddaeth trwy ein cyrsiau cymunedol megis Gwerin Iau a Gwerin Gwallgo, ac mae rhai ohonynt eisoes wedi symud ymlaen i weithio fel aelodau o’n staff, eraill fel tiwtoriaid ar ein cyrsiau, ac eraill i yrfaoedd proffesiynol. Mae Elisa a Rhys Morris wedi llwyddo i gyfuno o leiaf dau allan o’r tri yna, a mwy ar ben hynny.
“Wrth reswm, nid pawb sy’n dod yn gerddor traddodiadol proffesiynol – nid yw rhai o gynheiliaid mwyaf talentog ein traddodiad wedi llwyddo i gael, nac wedi bod eisiau, gyrfa lawn amser. Ond mae dros 90% o’r holl bobl ifanc sydd wedi dod trwy ‘system’ Trac yn gerddorion gweithredol, waeth sut maen nhw’n ennill eu bywoliaeth.
“Dwi’n gweld hynny’n ysbrydoledig, oherwydd dyma’r genhedlaeth gyntaf i gael y cyfleoedd hyn i ymgysylltu â’n cerddoriaeth gynhenid mewn ffyrdd na ches i wneud erioed. Mae hefyd yn destun pryder; y ffaith nad dyma’r genhedlaeth gyntaf i fod angen rhywbeth fel Trac Cymru i sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd hynny. Dyna pam ein bod ni’n gofyn am gefnogaeth gyhoeddus – er mwyn i ni allu dod â’n cerddoriaeth, a’r cyfle i’w mwynhau a ffynnu o’i mewn, at bob person ifanc yng Nghymru.”
Yn y fideo hwn, mae Elisa a Rhys Morris, sy’n frawd a chwaer, yn mynd â ni ar daith ddifyr trwy eu profiadau nhw fel pobl ifanc ac oedolion ifanc sydd wedi bod yn datblygu eu sgiliau gyda chefnogaeth Trac Cymru.
Wrth i ni gymryd trem yn ôl ar ein 21+1 o flynyddoedd hyd yma o weithio i gynnal y traddodiadau cerddorol sydd mor bwysig i ni fel cenedl, mae Trac Cymru hefyd wrthi’n cynllunio ein rhaglen o gefnogaeth at y dyfodol, i gefnogi’r to nesaf o gerddorion ifanc o Gymru. Helpwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21, a gallwch ein helpu i ariannu ein rhaglen i bobl ifanc trwy gyfrannu heddiw.