Un o nodau Trac Cymru yw sicrhau parhad a ffyniant traddodiadau gwerin Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod, a hynny fel elfen lachar a bywiog o fywyd cymunedau lleol. Rydym wedi gweithio i hybu cyfranogiad yn rhai o draddodiadau mwyaf eiconig y genedl – gan gynnwys defodau hynafol dramatig y Fari Lwyd.

Mae’r Fari Lwyd yn unigryw i Gymru ond yn cysylltu gyda thraddodiad sy’n ymestyn ar draws Ewrop ac ymhell i ddyfnderoedd hanes. Yn yr arferiad trawiadol hwn, ceir gorymdaith trwy’r gymuned gyda phenglog ceffyl wedi’i fowntio ar bolyn a’i addurno â rhubanau a chlychau, gan danio cyfres o ymrysonau barddonol ar ffurf ‘Pwnco’ ar drothwyon cartrefi pobl – fel rhyw fath o frwydr rap hynafol! 

Mae Trac Cymru wedi cydweithio â selogion y traddodiad ledled y wlad er mwyn cynnig gweithdai i ysgolion a grwpiau cymunedol ar y Fari Lwyd, gan ddod â phobl ynghyd i ddysgu mwy am y traddodiad Cymreig unigryw hwn, a’i ddathlu.

Am nad oes penglog ceffyl go-iawn wrth law bob amser, comisiynwyd David Pitt i ddylunio fersiwn fflatpac fel bod modd i bobl adeiladu eu model maint llawn eu hunain. Bu i Trac hefyd gyhoeddi cyfrol gyda darluniau cain ac eglurhad o hanes yr arferiad gan yr hanesydd Rhiannon Ifans, sydd hefyd yn cynnwys fersiynau o nifer o’r caneuon traddodiadol ynghyd â chyfieithiadau o’r penillion. Gellir prynu’r gyfrol o wefan Trac Cymru, a gallwch gysylltu â ni i brynu eich pecyn fflatpac eich hun fel bod gennych Fari Lwyd yn barod at y gaeaf nesaf.

Gyda’ch cymorth chi, bydd Trac Cymru yn parhau i ddatblygu prosiectau ac adnoddau newydd i sicrhau y gall pob cymuned gael budd o’n traddodiadau diwylliannol byw ac egnïol – ystyriwch gefnogi trwy gyfrannu heddiw.

Helpwch ni i ddathlu llwyddiannau’r 21+1 mlynedd gyntaf o waith Trac Cymru trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21.

Skip to content