Prynwch eich tocyn YMA

Gig Rhithiol: 03/09/21 8yh BST
Fyddwch chi’n gallu gwylio’r gig pythefnos ar ôl iddo gael ei ffrydio.
£10/€12/$13
Os fyddwch chi’n gwylio’r gig gyda nifer o bobl neu yn teimlo’n hael fasw ni’n gwerthfawrogi os allwch chi gyfrannu peth arian er mwyn cefnogi’r band a gwaith Trac Cymru.

Cyfranwch Yma

 

Ymunwch ag Avanc ar gyfer cyngerdd digidol a ffilmiwyd yn fyw yn Soar ym Merthyr Tudful gyda goleuadau llwyfan llawn ac ansawdd sain proffesiynol. Mwynhewch sioe newydd sbon gan gerddorion ifanc, egnïol a thalentog Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru yn fyw o’ch ‘stafell fyw ac ymunwch yn y ffrwd sgwrsio byw gyda’r band cyfan.

Mae Avanc wedi bod yn ymchwilio i gasgliad llawysgrifau cerddoriaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Bydd eu sioe yn dod â rhai o’r trysorau cudd maent wedi’u dadorchuddio i’r amlwg drwy eu sgleinio ar gyfer clustiau cyfoes, yn ogystal â dawns stepio a chip tu ôl i’r llen.

AVANC yw Ensemble Ieuenctid Gwerin Cymru, sy’n cynrychioli criw o bobl ifanc disglair a thalentog tu hwnt o’n traddodiadau cerddorol sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion gwerin ifanc. Mae nhw’n arbenigo mewn adfywio cerddoriaeth a fu’n gudd mewn manuscripts llychlyd hen lyfrgell ar hyd yr oesau, gan eu trawsnewid yn eu ffordd dihafal eu hunain i fod yn gampweithiau egnïol ac unigryw.
Mae’r ensemble yn anelu at hyfforddi cerddorion ifanc oedran 18-25 mewn sgiliau cerddorol fydd yn eu ysgogi i ddilyn gyrfa fel cerddorion gwerin proffesiynnol, yn ogystal â chynrychioli cerddoriaeth gwerin Cymreig ar lwyfannau mawr. Eu tasg yw i berfformio o safon uchel, gan ailddehongli cerddoriaeth draddodiadol Cymreig i gynulleidfaoedd newydd a chyfoes. Patrick Rimes sy’n arwain yr ensemble, ynghŷd â’r tiwtoriaid Sam Humphreys a Gwen Màiri. Mae eu sain pwerus yn werth ei glywed gan griw o 11 aelod sy’n cynnwys offerynnau megis telynau teires, bagbibau a phump o glocswyr medrus.
Yn 2019 cafodd AVANC y cyfle i ymddangos ar lwyfannau gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol – perfformio o flaen tyrfa enfawr yn Sesiwn Fawr Dolgellau, ac yna syfrdannu cynulleidfaoedd wrth gefnogi Calan ar y prif lwyfan yno. Gwnaethant ymddangos yn Tafwyl yng Nghaerdydd ac yn Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, heb anghofio’r perfformiad bythgofiadwy o safon aruchel yng ngwyl Interceltique Lorient yn Llydaw. Maent wedi bod yn weithgar iawn ers 2020 yn recordio a chynhyrchu sawl sengl, a sefydlu eu label eu hunain er mwyn eu rhyddhau, a hyn oll yn rhithiol gyda’r aelodau ar wasgar. Ar Fedi 3ydd 2021 bydd eu cyngerdd arlein cyntaf yn cael ei ddarlledu, ac edrychant yn arw at fedru perfformio yn fyw mewn gwahanol leoliadau a gwyliau cerddorol yn 2022.
Skip to content