Ein man cychwyn
Mae Trac Cymru yn darparu ysbrydoliaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i unigolion a phrosiectau er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. ‘Rydym yn rhoi’r hyder a chefnogaeth i artistiaid gwerin arddangos eu talentau rhyfeddol i’r byd mawr crwn. Ein cenhadaeth yw datblygu celfyddydau perfformio gwerin Cymreig fel traddodiad byw, i’w rhannu a’i fwynhau gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr ar bob lefel, yng Nghymru a ledled y byd, fel ei gilydd.
Beth sydd ei angen arnom ni
‘Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig sy’n meddu ar y sgiliau busnes i chwarae rhan allweddol yn adeiladu ein sefydliad mewn ffordd sy’n gweddu i’w uchelgais. Yn dipyn mwy na rȏl codi arian yn unig, mae’r swydd newydd hon wedi’i thargedu at gyrraedd ffrydiau incwm newydd, yn ogystal â gwireddu amcanion llesiant. Gan weithio o gartref arlein am fwyafrif yr amser, a mynychu sesiynau mentora cyson gyda’n Ymgynghorydd Codi Arian, byddwch yn dilyn ac yn datblygu ein Strategaeth Codi Arian i gysylltu ag ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol er mwyn dod o hyd i gyllid craidd a chyllid am brosiectau, yn ymchwilio’r opsiynau o ran derbyn nawdd a chefnogaeth ac yn datblygu ein gweithgareddau masnachol. Mae gennym llawer o syniadau; mae angen arnom eich sgiliau, eich amser a’ch arbenigedd chi i’n galluogi ni i’w gwireddu.
Mae’r swydd yn swydd lawn-amser, ac i ddechrau cyn gynted â phosib. Wedi’i sicrhau am flwyddyn yn y lle cyntaf, y bwriad yw y bydd yr arian y byddwch chi’n llwyddo i’w godi yn sicrhau eich cyflog chi am y flwyddyn ganlynol, ac at y dyfodol.
£26,000 y flwyddyn yw’r cyflog.
Mae Trac Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Ein nod bob amser yw recriwtio’r person gorau am y swydd, ac yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Mae’r swydd yn cynnig 25 diwrnod o flwyddyn o wyliau gyda thâl ynghyd â gwyliau cyhoeddus, mynediad at bensiwn y cwmni a lwfans tuag at gynnal eich swyddfa yn y cartref.
Mae’r swydd wedi’i hariannu gan Gronfa Gwytnwch Trydydd Sector Cymru, Cynllun Cyfnod 3, cynllun a weinyddir gan CGGC.
Yr hyn fyddwch yn gwneud
Gyda chefnogaeth ein rheolwyr hŷn a gan fanteisio ar gefnogaeth mentora ein hymgynghorydd codi arian, byddwch yn:
• Datblygu ein strategaeth codi arian yn unol â chynllun busnes y sefydliad.
• Cryfhau a chynyddu’n portffolio o gyllidwyr
• Datblygu ffrydiau incwm amrywiol, gan gynnwys ymddiriedolaethau sy’n cynnig grantiau, nawdd corfforaethol, gweithgareddau masnachol a rhoddion unigol.
• Cyfrannu at broses Cynllunio Busnes y sefydliad.
• Cynnal ymchwil, a dadansoddi’r farchnad ynghylch cyfleoedd am gyllid a chreu partneriaethau.
• Datblygu arfau codi arian priodol gan gynwys cynigion a chyflwyniadau, achosion am gefnogaeth ac adroddiadau ynghylch effaith.
• Cynnal cofnodion cywir o’r holl gyfleoedd sy’n bodoli i dderbyn cyllid a rhoddion.
• Defnyddio data, mewnwelediad a gwybodaeth drwyadl i wneud penderfyniadau a sicrhau ein bod yn cyflawni yn unol â’n hamcanion.
• Cydweithio’n agos gyda’r Tîm Rheoli ymhob agwedd o’r gwaith yn ȏl y gofyn, gan gynnwys gwaith Datblygu, Gwerthuso, Marchnata a Chyllid.
• Bod yn gyfrifol am lunio adroddiadau a ffigurau ystadegol i gyllidwyr, y Tîm Rheoli a’r Bwrdd fel bo’r angen.
• Rheoli eich gwaith gweinyddol beunyddiol gan gynnwys eich dyddiadur a’ch gwaith rheoli data, ymgysylltu â phersonél allweddol a chynnal cyfarfodydd trwy gyfrwng Skype neu Zoom fel bo’r angen.
• Cadw’n gyfredol ynghylch datblygiadau ym maes cyllido a rhannu gwybodaeth gyda’r tîm ehangach.
• Ymwneud ag hyfforddiant a mentora a mynychu unrhyw ddigwyddiadau rhwydweithio gan gynnwys, o bosib, digwyddiadau allan o oriau, er mwyn cynrychioli Trac Cymru fel bo’r angen.
Ai chi yw hwn?
‘Rydych chi’n berson sy’n:
• meddu ar brofiad o ddatblygu busnes neu godi arian, yn ddelfrydol yn y sector celfyddydol neu mewn sector elusennol.
• teimlo’n gyffrous wrth feddwl am weithio i fudiad bach, deinamig, lle y gallwch wir wneud gwahaniaeth.
• hoffi trafod manylion ac yn ddibynadwy
• hunan-ysgogwr, yn rhagweithiol ac yn meddu ar ymagwedd entrepreneuraidd.
• meddu ar sgiliau ymchwilio a dadansoddi data cadarn
• am fod yn rhan o rywbeth pwysig ‘rydych wir yn credu ynddo
• ddi-droi’n-ȏl. Os nad ydych yn llwyddo ar y cychwyn, ‘rydych yn dyfalbarhau tan eich bod yn gwneud, ac yn dysgu yr hyn sydd ei angen i lwyddo i wneud hynny ddigwydd. Mae gennych y gallu i weithio pethau allan, a gweld pendraw’r broblem.
• gallu rheoli eich amser yn dda. ‘Rydym yn dîm bach ac yn croesawu menter, ond hefyd yn credu mewn ffiniau ac yn croesawu’ch gallu i reoli’ch ffiniau eich hunain.
Profiad a chymwysterau hanfodol
• Profiad o, neu gymwysterau mewn, datblygu busnes a/ neu godi arian.
• Profiad o reoli ariannol a chyllido
• Safon ardderchog yn y Saesneg
• Talu sylw at fanylion
• Y gallu i weithio’n hyblyg o gartref
• Meddu ar fynediad at eich cludiant eich hun, ynghyd â thrwyddedd yrru lân, gyfredol.
• Yn gyfarwydd â phecynnau swyddfa modern, gan gynnwys GDrive a MS Office
• Bod â’r hawl i weithio yn y DU
Profiad bonws
• Bydd y gallu i siarad Cymraeg o fantais, ond nid yw’n sgil hanfodol.
• Bod gennych ddiddordeb byw yn niwylliant gwerin Cymru a’r cyfraniadau y gall y celfyddydau a chreadigrwydd wneud at lesiant ac ansawdd bywyd.
Sut i wneud cais
Os taw hwn yw’r cyfle ‘rydych wedi bod yn chwilio amdano, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn cyfarwyddydd@trac-cymru.org i esbonio pam taw chi yw’r person perffaith ar gyfer y rȏl.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Rhagfyr 13, 2021, erbyn 5 yh; bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal arlein ar Ragfyr 15, a bydd y gwaith yn cychwyn ar Ionawr 5, 2022. Edrychwn ymlaen at glywed oddiwrthoch chi.
Os am sgwrs anffurfiol am y rȏl hon, cysylltwch â Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn y cyfeiriad ebost uchod.